Part of 3. 2. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 23 Mai 2017.
Yn dilyn diddymiad tollau afon Hafren, sydd i’w groesawu’n fawr, ac, rydym ni’n gobeithio, adeiladu ffordd liniaru i'r M4, a yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi bod pwysigrwydd y rheilffyrdd fel dewis arall i integreiddio â'r system ffyrdd ddim ond yn cynyddu? Ac a yw’n croesawu penderfyniad ei Ysgrifennydd y Cabinet y dylai'r cynnig Magwyr-Gwndy ar gyfer gorsaf drenau newydd gael ei ddatblygu, yn ogystal â Llanwern a Llaneirwg, sydd wedi eu nodi yn y 12 cyntaf, gan y byddai rhoi tair gorsaf rheilffordd newydd ar y llwybr hwnnw rhwng Caerdydd ac afon Hafren yn gweddnewid natur y gwasanaeth?