Part of 3. 2. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 23 Mai 2017.
Nid wyf yn deall y safbwynt a gymerwyd gan y feddygfa deulu. Yr hyn nad wyf yn ei wybod, wrth gwrs, heb—. Rwyf yn ei wahodd i ysgrifennu ataf hefyd, wrth gwrs, gyda mwy o fanylion, ond nid yw meddygon teulu yn cynnig pob gwasanaeth am ddim. Bu’n rhaid talu am rai gwasanaethau erioed. Caiff meddygon teulu eu talu drwy'r GIG weithiau os, er enghraifft, y byddant yn cynnal profion gwaed. Weithiau, wrth gwrs, maen nhw’n codi tâl ar yr unigolyn yn uniongyrchol—llofnodi am bethau, yn aml iawn. Felly, nid wyf yn gwybod a yw hyn yn wasanaeth a fyddai’n cael ei gynnig gan y GIG fel mater o drefn ai peidio. Ond mae wedi codi'r mater gyda mi. Os gwnaiff roi’r manylion i mi, byddaf, wrth gwrs, yn ymateb.