Part of the debate – Senedd Cymru am 4:50 pm ar 24 Mai 2017.
Diolch yn fawr, Llywydd. Mae’n dda gennyf gyflwyno dadl yn enw Plaid Cymru sydd yn cyflwyno ac yn rhoi tystiolaeth y tu ôl i’r syniad o sefydlu cwmni ynni annibynnol yng Nghymru. Wrth ddechrau’r ddadl, hoffwn i dynnu sylw at y ffaith ein bod ni, fel Plaid Cymru, wedi cyhoeddi papur ymchwil ar y mater yma, ac wedi defnyddio arian o gronfa polisi ymchwil a chyfathrebu’r Cynulliad er mwyn cyhoeddi’r papur yma, ac mae’r papur wedi’i ddolennu gyda’r ddadl. Rwy’n gobeithio’n fawr y bydd Aelodau o bob plaid yn darllen y papur, i feirniadu neu i gytuno, neu beth bynnag. Mae’n bwysig, rwy’n credu, ein bod ni’n defnyddio adnoddau’r Cynulliad i adeiladu’r dystiolaeth sydd gyda ni y tu ôl i’n dadleuon ni, ac i ledaenu gwybodaeth hefyd. Os oes rhywun eisiau copi caled, fe fyddwn i’n fwy na pharod i baratoi copi caled iddyn nhw.
Mae’n wir i ddweud bod Plaid Cymru yn wastad wedi bod o blaid cwmni ynni annibynnol yng Nghymru, ond mae’r dystiolaeth a’r gefnogaeth i hynny wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf. Efallai mai’r prif symud yn y maes yma oedd adroddiad y pwyllgor amgylchedd yn y Cynulliad blaenorol a welodd y cyfle ar gyfer cwmni ynni yng Nghymru i wneud llawer i gau’r bwlch ynglŷn â thlodi tanwydd, i fuddsoddi mewn ynni o fathau newydd, yn enwedig ynni adnewyddol a hydrogen yn ogystal, a hefyd y cyfle, efallai, i herio’r system fasnachu bresennol sydd gyda ni yn y maes ynni.
Y tu ôl i’r sefyllfa bresennol y mae’r cwestiwn sylfaenol: a yw’r farchnad ynni presennol yn gweithio o blaid preswylwyr pob dydd, fel petai? A ydy e’n gweithio o blaid busnes? Ac a ydy e’n gweithio o blaid buddsoddi dros gyfnod hir yn y math o ddiwydiant ynni rŷm ni eisiau ei weld yng Nghymru? Mae Plaid Cymru o’r farn mai’r ateb i’r tri chwestiwn yna yw, ‘Na, nid yw’r system bresennol yn gweithio’, a bod angen o leiaf un gweithredydd arall yn y system bresennol i wneud pethau’n fwy bywiog. Mae’r farn yn cael ei rhannu gan y Blaid Lafur—wel, o leiaf Plaid Lafur Corbyn, achos mae’r Blaid Lafur honno wedi gofyn yn ei maniffesto ar gyfer yr etholiad cyffredinol ar 8 Mehefin am gwmni ynni annibynnol ym mhob rhanbarth—maen nhw’n defnyddio’r gair ‘rhanbarth’. Nawr, rwy’n meddwl bod Cymru’n rhanbarth i’r Blaid Lafur yna—mae’n genedl i ni, wrth gwrs—ond dyna pam roeddwn i’n synnu, a dweud y gwir, gweld bod y Blaid Lafur yma wedi rhoi gwelliant i’n cynnig ni, yn glastwreiddio’r hyn rŷm ni’n gofyn amdano, ac megis yn tanseilio’r hyn maen nhw’n ei ddweud a’r hyn mae eu plaid nhw’n sefyll arno yn yr etholiad yma. Ond mater iddyn nhw esbonio yw hynny, ac mae’n siŵr y byddan nhw’n gwneud hynny maes o law.
Nid oes dwywaith bod system y farchnad bresennol yn gwneud drwg yng Nghymru. Mae tai gydag incwm isel, wrth gwrs, yn arbennig yn cael eu heffeithio gan brisoedd uchel. Mae hwn yn rhywbeth cyffredin i bob plaid erbyn hyn. Y Blaid Lafur a wnaeth gynnig y cap ar brisoedd ynni dwy flynedd yn ôl, a dilornwyd hynny ar y pryd gan y Blaid Geidwadol. Ond erbyn hyn, y Blaid Geidwadol sy’n cynnig cap ar brisoedd ynni. Ond mae hynny’n rhywbeth sy’n ‘fix’ dros dro; nid yw’n mynd i fynd i’r afael â’r broblem sylfaenol yn y farchnad. Dyna beth rŷm ni’n ei gynnig fan hyn, sef rhywbeth mwy tymor hir a mwy gweithredol yn y farchnad yna.
Yma yng Nghymru, mae 23 y cant o gartrefi’n cael eu hystyried i fod mewn tlodi tanwydd. Mae 3 y cant, sydd yn ganran eithaf isel, ond yn nifer fawr, mewn tlodi ynni difrifol, hynny yw yn talu mwy nag 20 y cant o’u hincwm nhw ar gostau ynni. Mae hynny’n eich rhoi mewn sefyllfa anodd iawn. Beth sy’n ddiddorol yw pan rŷch chi’n cymharu hynny gyda gweddill Prydain, achos dim ond 11 y cant o gartrefi yn Lloegr sy’n cael eu hystyried i fod mewn tlodi tanwydd.
Nawr, yn y gorffennol, ac mae’n bosib heddiw hefyd, bydd rhai yn dadlau bod symud tuag at ynni adnewyddol wedi codi prisoedd ynni, ac felly rŷm ni’n gyfrifol, mewn ffordd, am ddadlau dros system ynni llai dibynnol ar garbon, achos mae hynny yn ei thro yn codi prisoedd i fyny i’r cwsmeriaid mwyaf tlawd yn ein cymdeithas. Ond beth sy’n ddiddorol yw bod prisoedd ynni yng Nghymru yn uwch o lawer na gweddill y Deyrnas Gyfunol, ond rŷm ni’n cynhyrchu llai o ynni adnewyddol na gweddill y Deyrnas Gyfunol. Felly, y canran o drydan sy’n cael ei gynhyrchu gan ffynonellau adnewyddol yng Nghymru ar hyn o bryd yw tua 20 y cant; yn yr Alban mae’n ddwbl hynny, dros 42 y cant; yng Ngogledd Iwerddon mae e’n 26 y cant; a hyd yn oed yn Lloegr mae’n uwch na Chymru, rhyw 2 y cant yn uwch. Felly, nid oes cyswllt amlwg rhwng cynhyrchu ynni adnewyddol a phris yr ynni mae’r cwsmer yn ei dalu amdano. Mae’r farchnad yn llawer mwy cymhleth na hynny. Y ffaith amdani hefyd yw ein bod ni yn cadw problemau at y dyfodol wrth inni gario ymlaen gyda system o ddosbarthu ynni sydd yn hynod ganoledig, sydd ddim wedi ei dosbarthu yn lleol, sydd ddim wedi’i datganoli yn yr ystyr yna, ac sydd ddim felly yn addas ar gyfer y fath o gynhyrchu ynni y byddwn ni’n cael yn fuan iawn, iawn. Un o’r pethau yna yw rhywbeth rŷm ni wedi trafod eisoes gydag Ysgrifennydd y Cabinet, sef y symudiad tuag at gerbydau o bob math yn rhedeg ar drydan, neu yn sicr hydrogen, yn enwedig ar gyfer cludiant.
Y morlyn llanw—rŷm ni’n ei gefnogi yn gryf iawn ac yn siomedig nad yw’n cael ei adlewyrchu ym maniffesto Deyrnas Gyfunol y Blaid Geidwadol, er ei fod ym maniffesto pob plaid arall. Ond mae morlyn llanw hefyd yn gofyn, yn enwedig wrth ddatblygu morlynnoedd llanw yn y gogledd ac ym môr Hafren, am system ddosbarthu fwy lleol lle mae pobl leol yn gweld mwy o fudd o’r buddsoddiad sy’n cael ei wneud mewn ynni adnewyddol. Nawr, er bod mwy yn cael ei ddatganoli i Gymru o ran cydsynio cynlluniau ynni, hyd at 350 MW, mae’n wir i ddweud bod y system gyllidol y tu ôl i ddatblygu ynni o bob math yn mynd i aros yn Llundain. Yn y cyd-destun hwnnw hefyd, mae sefydlu cwmni ynni i Gymru yn mynd i fod, yn ein barn ni, o fudd.
Felly, beth all cwmni o’r fath ei wneud? Wel, yn fras iawn, yn yr adroddiad rŷm ni wedi’i gomisiynu, mae’n edrych ar sut y gall gwmni brynu mewn ‘bulk’, felly prynu ynni ar ran cwsmeriaid yng Nghymru a phasio’r arbedion ymlaen yn y cyd-destun hynny. Rŷm ni’n edrych ar sut fyddai cwmni ynni yn gallu bod yn gerbyd i fod yn rhan o ddarparu rhai o amcanion eraill Llywodraeth Cymru, er enghraifft insiwleiddio, gwella ansawdd tai, effeithlonrwydd ynni ac ati. Rŷm ni’n defnyddio’r cwmni yma fel cerbyd i wneud hynny. Gall y cwmni fod yn rhyw fath o amlen ar gyfer buddsoddi mewn ynni adnewyddol. Nid wyf yn meddwl ei bod yn cael ei gydnabod yn eang iawn, yn sicr, fod Llywodraeth Cymru eisoes yn buddsoddi, i fod yn deg, yn helaeth mewn ynni adnewyddadwy. Rydw i’n credu bod gyda nhw fuddsoddiad mewn fferm haul yn Nhrefynwy, yn sir Fynwy yn rhywle—rhai miliynau wedi mynd mewn i hynny. Rŷm ni hefyd yn gweld llawer iawn o gymunedau lleol yn casglu yn lleol i fuddsoddi. Mae menter Awel Aman Tawe yn enghraifft dda iawn o hynny, ac rwy’n eu llongyfarch nhw ar gyrraedd y nod wythnos yma, rydw i’n meddwl, o dros £5 miliwn. Ond pa faint yn well y byddai hi petai cwmni cenedlaethol yn gallu cydlynu’r ymdrechion hyn, ennill gwell bargeinion yn y farchnad, yn y ddinas, fel petai, ar gyfer buddsoddiad, ac yn ei dro, basio ymlaen y ymlaen yn fwy agos at y cwsmer.
Byddai cwmni ynni cenedlaethol hefyd yn gallu arwain ymchwil—[Torri ar draws.]
Indeed. I’ll give way, yes.