11. 10. Dadl Plaid Cymru: Cwmni Ynni Cenedlaethol

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:17 pm ar 24 Mai 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 5:17, 24 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Llywydd. Mae’n bleser gennyf ymateb i’r ddadl hon. Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan yn glir ei huchelgais i ddarparu system ynni carbon isel ar gyfer Cymru. Wrth wneud hyn, rydym wedi ymrwymo i sicrhau’r manteision mwyaf posibl i Gymru yn sgil y newid hwn ac amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed. Felly, rwy’n croesawu’n fawr y gwaith a wnaed ar ddatblygu model Ynni Cymru.

Yn sicr, wrth ddarllen yr adroddiad, rwy’n credu ei bod yn glir iawn fod yr adroddiad yn nodi blaenoriaethau strategol tebyg iawn i’r rhai a nodais yn fy natganiad ynni ym mis Rhagfyr: defnyddio ynni’n fwy effeithlon, symud at gynhyrchiant carbon isel, ac ennill budd economaidd o’r technolegau a’r modelau busnes newydd sy’n dod i’r amlwg o’r newid.

Mae’r rhan fwyaf o’r mathau o weithgareddau a argymhellir yma eisoes yn cael eu datblygu gan raglenni cymorth a ariennir gan Lywodraeth Cymru, fel Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru, y gwasanaeth Ynni Lleol, a’r cynnig cymorth i’r sector cyhoeddus. Rydym yn parhau i nodi ffynonellau cyllid cyfalaf y gellir eu defnyddio i gefnogi datblygiad prosiectau effeithlonrwydd ynni a phrosiectau ynni adnewyddadwy ar draws pob sector. Rwy’n credu ein bod wedi cael cryn dipyn o effaith gyda’n rhaglenni effeithlonrwydd ynni hyd yma ac rydym yn awyddus i barhau i fynd i’r afael â her effeithlonrwydd ynni a nodi camau gweithredu i’w cymryd.

Rwy’n credu mai trafodaeth gychwynnol rhwng Simon Thomas a minnau a roddodd gychwyn ar y sgwrs hon i raddau, ynglŷn â chael cwmni dielw. Cefais gyfarfod cychwynnol gyda Simon Thomas ac yna cynhaliodd Llywodraeth Cymru dri digwyddiad ar draws Cymru ym mis Mawrth i gasglu tystiolaeth a safbwyntiau ynglŷn â’r potensial i gael cwmni gwasanaethau ynni ar gyfer Cymru, a siaradodd Simon yn y digwyddiad yn Aberystwyth. Rwy’n credu ei bod yn ddefnyddiol iawn i weld bod y dyheadau y siaradoch amdanynt heddiw, Simon, wedi’u nodi’n glir yn yr adroddiad yr ydym yn ei ystyried heddiw.

Argymhellodd Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd y Cynulliad diwethaf y dylid sefydlu cwmni ynni ac roedd ei adroddiad yn cydnabod y risgiau a’r heriau o fynd i mewn i’r hyn sy’n awr yn farchnad gystadleuol iawn, gyda dros 50 o ddarparwyr. Yn sicr, yr adborth a gawsom o’r tri chyfarfod yw ei bod yn heriol iawn ar hyn o bryd i werthu ynni rhad sydd hefyd yn garbon isel oni bai eich bod yn berchen ar y cynhyrchiant. Mae elw, felly, yn ansicr. Fel y dywedodd un cyfranogwr wrthym mewn digwyddiad, mae’r sector cyflenwi yn ymwneud â niferoedd cwsmeriaid uchel ac elw bach iawn.

Yr adborth a gawsom oedd mai teimlad pobl oedd bod angen inni fod yn glir iawn ynglŷn â diben cwmni ynni. Mae perygl y gallai cwmni ynni dynnu sylw oddi ar yr hyn sydd ei angen mewn gwirionedd, sef y gwaith rydym eisoes yn ei wneud yn hybu buddsoddiad mewn effeithlonrwydd ynni, cynhyrchu adnewyddadwy a seilwaith er mwyn galluogi’r newid i system ynni clyfar wedi’i datgarboneiddio yng Nghymru.

Mae angen i ni edrych ar fanteision a risgiau cwmni o’r fath. Rhaid i ni hefyd fod yn glir ynglŷn â phwrpas cwmni—gallai fynd i’r afael â phrisiau ynni, gallai fynd i’r afael â materion yn ymwneud ag ymddiriedaeth mewn darparwyr, neu gallai helpu i ddarparu marchnad ar gyfer cynhyrchwyr yng Nghymru, ond mae’n annhebygol y byddai unrhyw fodel unigol yn gallu mynd i’r afael â’r holl faterion.

Felly, mae’n dda gallu gweithio gyda phobl sydd â diddordeb yn y syniad hwn i ddeall pa weithgaredd sydd eisoes ar y gweill ac egluro sut y gall Llywodraeth Cymru ychwanegu gwerth yn y ffordd orau yn y maes hwn. Rydym hefyd yn ymwybodol o nifer o sefydliadau yng Nghymru sydd eisoes yn ystyried neu’n gweithredu, yn erbyn cefndir lle mae nifer y cwmnïau ynni yn cynyddu’n gyflym. Fel y dywedais, ceir 50 o ddarparwyr eisoes sydd â thrwydded gyflenwi, a rhai ohonynt â chanlyniadau cymdeithasol yn ganolog iddynt, ac yn cynnig mwy o ddewis. Fodd bynnag, rydym wedi gweld methiant GB Energy, a chredaf fod hynny’n dangos ei bod yn anodd cystadlu mewn marchnad sy’n gynyddol orlawn.

Cawsom rywfaint o adborth hefyd o’r digwyddiadau am y ffaith fod angen i Lywodraeth Cymru barhau i ddarparu amgylchedd polisi cefnogol a chydlynu gweithgaredd ar draws Cymru i alluogi prosiectau i gael eu cyflwyno er lles Cymru. Adborth arall oedd bod pobl yn teimlo mai gwaith y Llywodraeth yw gweithredu fel llais gonest a dibynadwy dros siarad gwerthu cyflenwyr ynni sy’n cystadlu, gan edrych ar y materion strategol a rheoleiddiol. Rydym eisoes yn gwneud hyn—rydym yn gweithio’n agos iawn gydag Ofgem, gweithredwyr rhwydweithiau dosbarthu, y Grid Cenedlaethol a Llywodraeth y DU i sicrhau eu bod yn cyflawni ein blaenoriaeth i ddarparu system ynni sy’n galluogi’r newid carbon isel yng Nghymru. Ni fyddai corff hyd braich heb rym y Llywodraeth i gynnull yn gallu gwneud hyn.

Rydym yn canolbwyntio adnoddau’r Llywodraeth ar nodi a mynd i’r afael â’r bylchau yn y farchnad, gan gysylltu gweithgareddau a chefnogi datblygiadau na fydd yn digwydd yn naturiol. Felly, dyma’n union a wnawn drwy gefnogi prosiectau fel Ynni Lleol ym Methesda, sy’n treialu gwerthu trydan yn lleol, ac rwy’n edrych ymlaen at ymweld â hwy’n fuan iawn. Rwy’n credu y bydd hynny’n ein helpu i ddeall sut y mae angen i reoleiddio newid er mwyn helpu hyn i ddigwydd yn ehangach.

Rydym eisoes wedi nodi gwres fel maes allweddol, ac wedi bod yn gweithio gyda Phen-y-bont ar Ogwr i ganfod dulliau newydd o ddarparu gwres carbon isel. Rydym bellach yn casglu tystiolaeth i lywio datblygiad y gwasanaethau cymorth a ddarparwn i gyrff cyhoeddus a grwpiau ynni lleol yng Nghymru. Mae’r gwasanaethau hyn eisoes wedi cael budd lleol o ddarparu prosiectau ynni ar draws Cymru, a byddant yn parhau i fod yn rhan allweddol o’n hymagwedd tuag at greu’r amgylchedd cywir ar gyfer y newid carbon isel yng Nghymru.

Felly, edrychaf ymlaen yn fawr at gyhoeddi ein hadroddiad o’r digwyddiadau diweddar hynny, ynghyd â’n safbwynt ar y cynnig. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at barhau i weithio gyda Simon Thomas, ac unrhyw Aelodau etholedig eraill sy’n cefnogi ein gweledigaeth, i nodi sut i barhau i ddefnyddio’r adnoddau sydd ar gael yn y ffyrdd mwyaf arloesol er mwyn cyflawni ein nodau ynni.