Part of the debate – Senedd Cymru am 5:33 pm ar 24 Mai 2017.
Diolch yn fawr, Llywydd. Y pwnc ydy amddiffyn Cymru i’r genhedlaeth nesaf. Diben fy nadl fer heddiw yw trafod yr heriau presennol sy’n wynebu Cymru, yn enwedig anghydraddoldeb economaidd a’n perthynas â gweddill y byd. Rwy’n bendant fy marn bod fod angen amddiffyn Cymru o ystod eang o fygythiadau sydd ar y gweill os ydym yn mynd i lwyddo i wella’r cyfleoedd sydd ar gael ar gyfer y genhedlaeth nesaf.