Part of the debate – Senedd Cymru am 5:48 pm ar 24 Mai 2017.
Diolch yn fawr, Dai Lloyd. Rydych wedi rhoi cyfle inni y prynhawn yma, yn eich dadl fer, i ddarparu darlun pwysig o gyflawniadau hanesyddol ffigyrau dylanwadol a datblygu hefyd yr hyn y mae Cymru wedi’i gynnig a’i roi, nid yn unig i’w gwlad ei hun, ond i’r byd. Mae’r persbectif hanesyddol hwnnw’n cael ei golli’n rhy aml, ac mae’n bwysig eich bod wedi myfyrio ar hynny y prynhawn yma.
O’n safbwynt ni fel Llywodraeth Lafur Cymru, ac wrth gwrs, yn ystod yr adegau pan oeddem mewn partneriaeth yn ogystal, rydym wedi bod yn sefyll dros Gymru a buddiannau Cymru dros y 18 mlynedd diwethaf—ers gwawr datganoli yn wir, wrth gwrs, a buom yn myfyrio ar hynny ddoe yn y teyrngedau i Rhodri Morgan. Rydym bellach yn gosod Cymru ar lwyfan y byd gydag effaith a chanlyniadau y byddaf yn myfyrio arnynt. Byddwn yn parhau i sefyll dros Gymru a thros ein cenedlaethau i ddod yng Nghymru yn y dyfodol drwy’r polisïau a’r deddfau—a deddfau y gallwn eu gweithredu bellach, mewn gwirionedd—rydym yn eu rhoi ar waith heddiw i ymateb i’r heriau newydd a wynebwn. Mae ein gwlad yn parhau i fod yn fan lle y ceir pobl ddynamig, hael a chreadigol, a phobl dosturiol hefyd, a phobl sy’n edrych tuag allan yn ogystal â thuag at y genedl—pobl sydd â photensial enfawr. Rydym yn awyddus i feithrin y potensial hwnnw, i greu’r amodau a’r amgylcheddau i’r potensial hwnnw ffynnu a thyfu.
Dirprwy Lywydd, mae’r Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru bob amser wedi gweithredu, a bydd yn parhau i weithredu, er budd gorau Cymru. Mae canlyniadau iechyd yn gwella: mae cyfraddau goroesi canser yn gwella, mae llai o bobl yn marw o glefyd y galon, ac mae niferoedd marwolaethau o strôc yn gostwng. Mae canlyniadau addysgol yn gwella: y canlyniadau TGAU yw’r gorau a gofnodwyd erioed, ac mae’r bwlch rhwng plant sy’n cael prydau ysgol am ddim a’u cyd-ddisgyblion yn cau. Mae ein heconomi’n perfformio’n well nag erioed: mae anweithgarwch economaidd wedi gostwng, mae cyflogaeth wedi cynyddu, ac rydym wedi gweld lefelau mewnfuddsoddi gwell nag erioed. Mae’n bwysig, fel y dywedoch, ein bod yn gweld y cynnydd ar lefel leol a rhanbarthol fel bargen ddinesig bae Abertawe, sydd hefyd, wrth gwrs, yn gysylltiedig iawn ag ehangu’r brifysgol, a soniais am y datblygiad hollbwysig a gyflawnwyd gennym gymaint o flynyddoedd yn ôl, sef yr ysgol feddygol i raddedigion yn Abertawe, a’r ail gampws, na fyddai wedi digwydd, wrth gwrs, heb arian Ewropeaidd.
Rwy’n credu bod Dai Lloyd yn iawn i dynnu sylw at y ffaith fod Cymru, fel rhannau eraill o’r DU a’r byd gorllewinol ehangach, yn wynebu heriau—heriau a gaiff eu hwynebu gennym ni a chan y genhedlaeth nesaf. Ar ôl saith mlynedd o galedi gan Lywodraeth Geidwadol y DU sy’n benderfynol o dorri gwariant cyhoeddus, gan gynnwys torri £1 biliwn oddi ar ein cyllideb ein hunain, rydym yn gweld safonau byw’n gostwng, ansicrwydd cynyddol a bygythiad i’n gwasanaethau cyhoeddus, ond rydym yn ymdrechu i ddiogelu a gwella ein gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru—presgripsiynau rhad ac am ddim, cadw ein presgripsiynau rhad ac am ddim: mae’r dreth honno ar iechyd mor bwysig. Mae’n ymwneud â dewisiadau a blaenoriaethau: un ffordd y gallwn amddiffyn a diogelu’r rheini sydd ar incwm isel yng Nghymru sy’n gweithio, er mwyn helpu i fynd i’r afael â thlodi mewn gwaith. Rydym yn parhau i fuddsoddi yn ein gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru er gwaethaf y toriadau i’n cyllideb o San Steffan, yn ein GIG a gofal cymdeithasol, yn ein hysgolion ac yn ein cynghorau lleol. Rydym yn adeiladu dyfodol gwell ar gyfer ein plant drwy ddiwygio ein system addysg, buddsoddi mewn sgiliau a phrentisiaethau, mewn gofal plant a thrafnidiaeth gyhoeddus well, ac mewn 20,000 yn rhagor o dai fforddiadwy ar gyfer y dyfodol.
Llywodraeth Lafur Cymru oedd pensaer Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Dywedodd y Cenhedloedd Unedig:
‘Yr hyn y mae Cymru’n ei wneud heddiw, gobeithiwn y bydd y byd yn ei wneud yfory—gweithredu yn fwy na geiriau yw’r gobaith ar gyfer cenedlaethau’n dyfodol.’
Nid oes unrhyw wlad arall wedi cymryd camau mor feiddgar i ddeddfu ar gyfer nodau llesiant hirdymor. Mae Cymru ar flaen y gad mewn deialog ryngwladol sy’n ceisio ymgysylltu â phobl ar draws y byd mewn trafodaeth am y byd yr hoffent ei weld, yn awr ac yn y dyfodol.
Bydd Dai Lloyd wedi gweld y newidiadau—wrth ddychwelyd i’r Cynulliad—aeddfedu’r Cynulliad hwn, y Senedd, o ran ein cyfleoedd nid yn unig i ddefnyddio ein pwerau deddfu, ond i ehangu ein pwerau cyllidol yn awr mewn gwirionedd. Rwyf am ddweud ychydig eiriau am y llwyfan rhyngwladol. Ydym, rydym yn byw mewn byd ansicr. Rydym yn wynebu bygythiad gwirioneddol a pharhaus gan derfysgaeth ryngwladol a therfysgaeth sy’n deillio o’r wlad hon, fel y gwelsom mor drasig ddoe ar ôl nos Fawrth. Er gwaethaf ein hymdrechion gorau ym maes diplomyddiaeth, mae llawer o wledydd a gwladwriaethau’n parhau i fod wedi’u hanrheithio gan ryfel. Mae clefydau newydd a rhai sy’n bygwth bywydau’n dod i’r amlwg drwy’r amser, ac ychydig iawn o amddiffyniad sydd gennym yn eu herbyn. Ac wrth gwrs, rydym yn wynebu ansicrwydd dyfodol y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd. Rydym wedi derbyn canlyniadau refferendwm yr UE, ond nid yw’n ormod dweud y bydd y ddwy flynedd nesaf o drafodaethau yn pennu dyfodol, nid yn unig ein gwlad, ond dyfodol ein plant.
Mae Llywodraeth Cymru’n benderfynol o ddiogelu buddiannau allweddol y wlad hon a ffyniant Cymru yn y dyfodol, a dyna pam y cyhoeddasom, gyda Phlaid Cymru, y Papur Gwyn ‘Diogelu Dyfodol Cymru’. Mae’n nodi ein diddordebau strategol a’n blaenoriaethau allweddol, wrth i’r DU baratoi i adael yr UE. Cyhoeddasom y Papur Gwyn gyda’n gilydd am ein bod yn glir nad yw gadael yr Undeb Ewropeaidd mewn unrhyw ystyr yn golygu y bydd Cymru yn troi ei chefn ar Ewrop, dealltwriaeth a rennir rhyngom, ac wrth gwrs, mae mynediad llawn a dilyffethair parhaus at y farchnad sengl yn hanfodol i’n dyfodol.
Mae yna risgiau o’n blaenau, wrth i’r DU symud tuag at Brexit, ac rydych wedi gwneud sylwadau ar y risg i’n sector a’n diwydiant amaethyddol, ein sector ffermio. Rhaid rheoli’r risgiau hyn a’u lliniaru—risgiau i warchod yr amgylchedd, risgiau i hawliau gweithwyr—ond wrth gwrs, mae yna gyfleoedd sy’n rhaid i ni fachu arnynt. Ddoe, siaradais am ymrwymiad Rhodri Morgan i Gymru a’r byd ehangach. Fe estynnodd allan, ac yfory, byddwn yn gweld cynnyrch a chanlyniadau rhaglen Cymru o Blaid Affrica, a gychwynnwyd ganddo, ond hefyd ei ymrwymiad i agor a rhannu Cymru yn y byd. Cefais fy ysgogi’n fawr gan ei ymrwymiad i osod Cymru ar lwyfan y byd ar Ddydd Gŵyl Dewi, nid yn unig yn yr Unol Daleithiau, a oedd, wrth gwrs, yn bwysig iawn o ran cysylltiadau masnach a chysylltiadau diwylliannol, ond mewn gwledydd a phrifddinasoedd Ewropeaidd mewn gwirionedd lle mae gennym y digwyddiad blynyddol pwysig hwnnw bellach.
Mae Llywodraeth Lafur Cymru yn awyddus i adeiladu gwlad lle rydym yn buddsoddi ein cyfoeth i roi’r cyfle gorau i bawb. Mae hynny’n golygu adeiladu’r cartrefi sydd eu hangen arnom i’w rhentu a’u prynu, cadw ein cymunedau’n ddiogel, rhoi’r cyllid sydd ei angen arnynt i ffynnu i ysgolion ein plant a’n GIG. Rydym eisiau Cymru—ac rwy’n credu ein bod yn rhannu hyn—lle nad oes neb yn cael eu dal yn ôl, gwlad lle mae pawb yn gallu camu ymlaen mewn bywyd, yn ddiogel yn y gwaith ac yn y cartref, yn cael eu talu am y gwaith a wnânt, ac yn byw bywyd gyda’r urddas y maent yn ei haeddu. Diolch yn fawr.