Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 24 Mai 2017.
Diolch. Rydym wedi ymrwymo i gynnal a gwella ein safonau amgylcheddol, ac rydym yn cydnabod bod ein hadnoddau naturiol yn hanfodol i ddyfodol Cymru ar ôl gadael yr UE. Mae deddf yr amgylchedd a deddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol eisoes wedi rhoi sylfaen gref ar waith sy’n seiliedig ar ymrwymiadau rhyngwladol na fydd yn cael eu heffeithio gan Brexit.