Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 24 Mai 2017.
Ydw, yn sicr, rwyf wedi bod yn cael y trafodaethau hynny, ac rwy’n sicr yn cyfarfod yn rheolaidd iawn gyda Gweinidogion y DU ynglŷn â materion sy’n ymwneud â materion pontio yr UE, a Gweinidogion o’r gweinyddiaethau datganoledig eraill. Roedd y cyfarfod diwethaf ar 20 Ebrill. Nid oes un gennym y mis hwn, yn amlwg, oherwydd yr etholiad, a byddwn yn cyfarfod nesaf ar 21 Mehefin. Rydym yn cefnogi cynllun gweithredu’r Comisiwn Ewropeaidd, sy’n anelu at wella effeithlonrwydd y broses o roi’r cyfarwyddebau natur ar waith, a sicrhau mwy o hyblygrwydd o ran y ffordd y caiff y cyfarwyddebau eu rhoi ar waith er mwyn cyflawni canlyniadau amgylcheddol. Mae fy swyddogion hefyd yn gweithio’n agos iawn gyda’u cymheiriaid yn Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, yn ogystal â’r Alban a Gogledd Iwerddon, i sicrhau bod ymateb y DU i’r cynllun gweithredu’n adlewyrchu’n llawn ein hymagwedd tuag at reoli adnoddau naturiol mewn modd cynaliadwy, fel y nodir yn ein Deddf amgylchedd.
Credaf fod hynny’n ein rhoi mewn sefyllfa gref i barhau i gyflawni ein rhwymedigaethau rhyngwladol.