<p>Amddiffyniadau Amgylcheddol </p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 24 Mai 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 1:34, 24 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Fe fyddwch yn ymwybodol, wrth gwrs, nad yw cyfarwyddeb yr UE ar ddiogelu safleoedd bridio llamidyddion wedi cael ei throsglwyddo i gyfraith y DU, a gobeithiaf y gall Llywodraeth Cymru, ar ôl Brexit, naill ai ddewis cyflwyno ychydig o’i hamddiffyniadau ei hun, neu weithio gyda Llywodraeth y DU i wneud hynny. Mewn gwirionedd, gobeithiaf y bydd Llywodraeth Cymru yn arwain ar hyn ar ran etholwyr ym Mhorthcawl, ac etholwyr eraill yn ardal bae Abertawe. Os ydych yn barod i fwrw ymlaen â rhywbeth tebyg i hyn, a fyddai’r amddiffyniadau hynny’n ddigon penodol i ddiogelu ardaloedd rhag effeithiau cysylltiedig datblygu ffermydd gwynt ar y môr?