Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 24 Mai 2017.
Rwy’n siŵr y bydd y rhan fwyaf o’r Aelodau yn y Siambr yn gyfarwydd â’r hyn a ddywedwch. Mae ein bagiau post yn aml yn llawn cwynion o’r fath, ac rwy’n sicr yn llongyfarch Sir Benfro ar gael y strydoedd glanaf, ac mae’n bwysig iawn fod yr arferion gorau hynny’n cael eu rhannu. Byddwch yn gwybod am y sawl cynllun sydd gennym. Rydym yn cefnogi Cadwch Gymru’n Daclus, er enghraifft, a gwn eu bod wedi cynnal arolwg yn ddiweddar o lendid strydoedd a ddaeth i’r casgliad fod 95.5 y cant o’r strydoedd a arolygwyd wedi cael gradd B ac uwch. Felly, mae hynny’n eithaf derbyniol i’r cyhoedd, ond credaf ei bod yn hynod bwysig fod pob ardal yn anelu’n uwch.