Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 24 Mai 2017.
Yn sicr, credaf fod angen inni leihau faint o ddeunydd pacio a ddefnyddir, ac roeddwn yn arswydo wrth weld—prynodd fy merch rywbeth gan gwmni adnabyddus iawn nad wyf am eu henwi, a chredaf fod yr eitem oddeutu’r maint hwn ac roedd y deunydd pacio’n gwbl enfawr, a gwnaeth hynny i mi gysylltu â swyddogion ar unwaith i’w hatgoffa bod hyn yn rhywbeth y credaf fod gwir angen inni ei ystyried. A’r hyn rydym am ei wneud yw comisiynu astudiaeth ddichonoldeb, ac mae angen i honno edrych ar y costau a’r buddion a’r holl opsiynau sydd ar gael i leihau faint o ddeunydd pacio a ddefnyddir ar gyfer bwyd a diod, mewn un maes. Mae angen i ni ystyried cynyddu cyfraddau ailgylchu a lleihau sbwriel fel rhan o gynllun sy’n rhoi mwy o gyfrifoldeb ar y cynhyrchwyr. Cyfarfûm â chwmni diodydd adnabyddus iawn ynglŷn â’r hyn y gallant ei wneud mewn perthynas â chwpanau untro. Credaf fod cyfleoedd enfawr yma i ni allu lleihau’r defnydd o ddeunydd pacio.