<p>Risg o Lifogydd ar Afon Tawe</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 24 Mai 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 2:07, 24 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

A gaf fi dynnu sylw at lwyddiant ysgubol y gorlifdir yn Ynysforgan, sydd oddeutu chwarter milltir o ble rwy’n byw? Rwy’n gyrru heibio’n eithaf aml ac weithiau mae gennych lyn, bryd arall mae gennych ychydig o lynnoedd bychain, ac ar adegau eraill mae’n sych, ond mae’n atal llifogydd yn yr ardal honno, a arferai fod yn broblem enfawr.

A gaf fi hefyd groesawu’r cynnig i beidio â chodi treth dirlenwi ar ddeunyddiau a garthwyd o afonydd yn y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) presennol, sydd ar ei ffordd drwodd? Ar ôl gweld llwyddiant ysgubol y gorlifdir ar Afon Tawe—rydym bob amser yn barod, yn Abertawe, i allforio llwyddiannau—a oes unrhyw gynlluniau i greu gorlifdiroedd o’r fath ar afonydd eraill er mwyn atal llifogydd i dai a busnesau?