Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 24 Mai 2017.
Rwy’n cydnabod y gwaith a wnaed yn Ynysforgan, mewn gwirionedd. Cafodd tua 300 o gartrefi eu diogelu yno. Eto i gyd, yn y blynyddoedd diwethaf, rydym hefyd wedi gweld adeiladu newydd ar safleoedd sy’n ymddangos fel pe baent ar dir isel yn agos at yr afon. Ar y llaw arall, yn fy ngwaith blaenorol, rwy’n cofio gorfod esbonio i fenthycwyr dro ar ôl tro, er bod eu chwiliadau amgylcheddol yn dangos bod tai’n cael eu hadeiladu ar orlifdiroedd, nid oedd hynny’n wir—roeddent fel arfer sawl metr yn uwch nag y dangosai mapiau risg gorlifdiroedd amgylcheddol, a byddai wedi cymryd tswnami, mewn gwirionedd, i orlifo i’r rhan fwyaf ohonynt. Pa mor aml y caiff y cynlluniau gorlifdir hyn eu hailasesu? Rwy’n gofyn nid yn unig am y gall astudiaethau bwrdd gwaith fethu nodi daearyddiaeth leol yn aml, os mynnwch, ond hefyd am y gall gorddatblygu mewn ardal benodol effeithio ar lefel trwythiad a dŵr ffo, ac mae hynny’n arbennig o bwysig mewn llefydd fel Abertawe, lle rydym yn edrych ar 20,000 o gartrefi newydd, yn ogystal â’r seilwaith cysylltiedig.