Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 24 Mai 2017.
Gwn fod hynny’n rhywbeth y mae swyddogion cynllunio yn gweithio arno gyda’r awdurdodau lleol, ac yn amlwg mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhan o’r ymgyrch honno. Mae’n bwysig iawn fod yr holl faterion hyn yn cael eu hystyried, ac rwy’n edrych ar y polisïau cynllunio yn gyson i sicrhau bod gan awdurdodau lleol y canllawiau cywir wrth law.