Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 24 Mai 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae adroddiad y Groes Las ‘Unpicking the Knots’ yn dweud wrthym, y tro diwethaf y cyflwynodd y Llywodraeth gyfraith benodol i reoleiddio gwerthiant anifeiliaid anwes, roedd Winston Churchill ar fin cymryd lle Clement Attlee am ail dymor fel Prif Weinidog, Newcastle United oedd enillwyr cwpan yr FA, ac roedd The Archers newydd basio ei gyfnod prawf. Nawr, rwy’n siwr y byddwch yn cytuno â mi fod yr oes yn sicr wedi newid ers hynny, a bod twf y rhyngrwyd yn sicr wedi cael effaith sylweddol ar y fasnach anifeiliaid anwes. Felly, a allwch chi ddweud wrthym pa drafodaethau penodol rydych wedi’u cael ynglŷn â’r angen am ddeddf wedi’i diweddaru ar gyfer rheoleiddio gwerthu anifeiliaid anwes yng Nghymru?