Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 24 Mai 2017.
Croeso nôl. Pan nad oeddech chi yma fel Gweinidog, fe wnes i ofyn am ddadl ynglŷn â chofrestr cam-drin anifeiliaid i Gymru, oherwydd mae nifer o ymgyrchoedd wedi bod yn galw am hyn. Mae’r RSPCA wedi bod yn gofyn hefyd am grŵp gorchwyl gan Lywodraeth Cymru i edrych ar yr opsiynau. Er enghraifft, yn Tennessee, mae yna restr sydd yn agored i’r cyhoedd, ac yn Efrog Newydd mae yna restr dim ond ar gyfer pobl sydd yn gwerthu neu yn prynu anifeiliaid. Felly, a fyddech chi’n cytuno y byddai rhyw fath o grŵp gorchwyl yn helpu uno’r drafodaeth gychwynnol ar y mater yma, fel bod pobl Cymru sydd yn meddwl bod hyn yn syniad da—mae deiseb wedi cael lot fawr o gefnogaeth dros Brydain i gyd—er mwyn inni gychwyn y ddadl yma ac i Gymru ddangos y ffordd ymlaen yn hynny o beth?