Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 24 Mai 2017.
Wrth gwrs, ac rydym yn ymgysylltu â’r sector. Rwy’n falch iawn fod yna lawer o ardaloedd yn Abertawe sy’n cael eu cynnwys yn y cynllun peilot hwn a bydd yn lledaeniad da o ardaloedd ar gyfer ei brofi ar draws safleoedd ysgolion a lleoliadau meithrinfeydd dydd preifat. Byddwn yn dysgu o hyn wrth i ni symud ymlaen, ac rwy’n edrych ymlaen at weld yr ardaloedd prawf yn dechrau arni ym mis Medi yn y tymor newydd.