Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 24 Mai 2017.
Yn ddiweddar, cymeradwyodd Llywodraeth Cymru asesiadau llety Sipsiwn a Theithwyr a gyflawnwyd gan bob awdurdod lleol yng Nghymru, ac a nodai angen am 237 o leiniau preswyl a 33 o leiniau dros dro. Rwyf wedi dyrannu £26.4 miliwn rhwng 2017 a 2021 i fynd i’r afael â hyn ac rwy’n disgwyl i awdurdodau lleol wneud cynnydd cyflym ar hyn.