<p>Y Gymuned Sipsiwn a Theithwyr</p>

Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 24 Mai 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 2:44, 24 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Nid wyf yn gallu rhoi sylwadau ar achosion cyfreithiol sydd ar y gweill. Fodd bynnag, cyflwynodd Deddf tai 2014 ddyletswyddau newydd ar awdurdodau lleol i asesu anghenion lleiniau cartrefi symudol Sipsiwn a Theithwyr yn briodol a sicrhau wedyn fod digon o safleoedd yn cael eu creu. Ni yw’r unig ran o’r DU sydd wedi rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol i wneud hyn, ac rwy’n credu ei fod yn flaengar iawn, ac fel y dysgais o’r grŵp trawsbleidiol Sipsiwn, Teithwyr a Roma yr wythnos o’r blaen, roedd y sefydliadau’n gadarnhaol iawn ynglŷn â’n hymyriadau yn hyn o beth.