Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:49 pm ar 24 Mai 2017.
Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Rydym wedi ymrwymo i weithio ar draws adrannau i sicrhau cymorth i liniaru effeithiau profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a darparu cefnogaeth i deuluoedd sy’n agored i niwed yng Nghymru. Yn ogystal, rydym yn cyfrannu £400,000 yn 2017-18 tuag at sefydlu canolfan gymorth profiadau niweidiol yn ystod plentyndod Cymru Well Wales.