Part of the debate – Senedd Cymru am 3:57 pm ar 24 Mai 2017.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn gynnig y cynnig yn enw Paul Davies. Nod ein cynnig yw croesawu’r hwb economaidd i economi Cymru a gyflawnir gan ymrwymiad y Prif Weinidog i gael gwared ar y tollau ar groesfan Hafren a galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod yr angen i fynd i’r afael â’r gwahaniaeth rhanbarthol mewn ffyniant economaidd, sy’n dal i fodoli yng Nghymru, drwy fargen dwf ar gyfer gogledd Cymru a chanolbarth Cymru.
Yn gyntaf, Dirprwy Lywydd, ceir consensws ar draws y Siambr i gefnogi dileu’r tollau ar bont Hafren. Credaf fod y tollau ar y ddwy bont Hafren yn rhwystr economaidd a symbolaidd i Gymru, a dyna pam rwyf wrth fy modd, wrth gwrs, fod y Prif Weinidog wedi gwneud yr ymrwymiad hwn, cam yr amcangyfrifir y bydd yn sicrhau hwb o tua £100 miliwn y flwyddyn i economi de Cymru. Mae’r penderfyniad hwn yn dangos i weddill y byd, wrth gwrs, fod Cymru ar agor ar gyfer busnes.
Mae’r cynnig yn galw hefyd am gydnabod yr angen am fargen dwf ar gyfer gogledd Cymru a bargen dwf ar gyfer canolbarth Cymru er mwyn sicrhau ffyniant y ddau ranbarth yn y dyfodol. Hoffwn ganolbwyntio fy sylwadau ar hyn. Rwy’n ymwybodol fod Aelodau eraill yn gobeithio cael eu galw i ganolbwyntio ar rannau eraill o’n cynnig.
Mae gan ogledd Cymru gyfuniad o asedau i fod yn rhanbarth ffyniannus yn ein cenedl. Mae ei leoliad daearyddol nid yn unig yn ei wneud yn arbennig o hardd i dwristiaeth Cymru—yn ail yn unig, wrth gwrs, i fy etholaeth yn Sir Drefaldwyn—ond mae yn y sefyllfa orau i ddatblygu cysylltiadau economaidd ag Iwerddon a dinasoedd fel Birmingham, Lerpwl a Manceinion. Ac mae Manceinion, wrth gwrs, fel y gŵyr pawb ohonom, yn ddinas a chymuned sydd wedi dangos cryfder hynod yn ystod y dyddiau diwethaf ac mae’n glod gwirioneddol, rwy’n meddwl, i weddill y Deyrnas Unedig, drwy ei hysbryd a’i phenderfyniad yn wyneb ymosodiad terfysgol erchyll. Ac wrth gwrs, mae ein meddyliau gyda’r dioddefwyr a’r teuluoedd a gafodd eu dal yn y digwyddiadau brawychus hynny.
Dirprwy Lywydd, y ffaith amdani, rwy’n meddwl, yw bod 1 filiwn o bobl o oedran gweithio yn byw ar y naill ochr i’r ffin, ac yn hytrach nag edrych tua’r de i Gaerdydd, mae pobl a busnesau gogledd a chanolbarth Cymru yn tueddu i edrych tua’r dwyrain tuag at Fanceinion, Lerpwl a chanolbarth Lloegr, o ganlyniad i symudiadau trawsffiniol. Mae’n ffaith bywyd o ddydd i ddydd, ac ni chredaf y dylai’r ffin fod yn rhwystr economaidd. I’r gwrthwyneb, bydd economi gogledd Cymru yn ddi-os yn elwa’n fawr o ffyniant a thwf yng ngogledd Lloegr, gan gynnig cyfleoedd gwaith a busnes i bobl yn rhanbarth gogledd Cymru. Ac mae’r cysylltiad economaidd agos hwn, rwy’n meddwl, yn ei gwneud yn hynod o bwysig sicrhau bod cydweithredu trawsffiniol yn digwydd ar gyflawni prosiectau seilwaith trafnidiaeth, a byddai awdurdodau trafnidiaeth rhanbarthol yn mynd gryn dipyn o’r ffordd, rwy’n meddwl, tuag at sicrhau bod blaenoriaethau seilwaith yn cael eu pennu ar lefel ranbarthol. Felly, rwy’n meddwl ei bod yn hanfodol fod Llywodraeth Cymru, nid yn unig yn cryfhau’r seilwaith trafnidiaeth o amgylch coridor yr A55, ond ei bod yn mynd ymhellach i adeiladu perthynas waith gryfach, gydag Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU a Transport for the North, er mwyn sicrhau bod gogledd Cymru yn rhan annatod o’r rhanbarth economaidd newydd cyffrous hwn.
Yn olaf, Dirprwy Lywydd, hoffwn gyfeirio hefyd at bwysigrwydd datblygu cytundeb rhanbarthol tebyg ar gyfer canolbarth Cymru. Rwy’n credu y byddai bargen dwf ar gyfer canolbarth Cymru yn mynd gryn dipyn o’r ffordd tuag at ysgogi a chynyddu cynhyrchiant a symudedd cymdeithasol yng nghanolbarth Cymru. Pan ymwelais yn ddiweddar â gwesty Llyn Efyrnwy yn fy etholaeth yn Sir Drefaldwyn i drafod eu cynlluniau ar gyfer y dyfodol, roedd yn amlwg fod angen dybryd am fwy o fuddsoddi mewn marchnata canolbarth Cymru fel cyrchfan benodol ar gyfer twristiaid a buddsoddi mewn rhwydweithiau trafnidiaeth a chreu seilwaith telathrebu o’r safon orau fel rhan o fargen dwf canolbarth Cymru i greu economi ffyniannus yng nghanolbarth Cymru. Canolbarth Cymru, sy’n lle hyfyw i wneud busnes, gan sicrhau bod sectorau allweddol megis twristiaeth ac amaethyddiaeth wedi’u cysylltu â pheiriant canolbarth Lloegr.
Felly, er mwyn i’r rhanbarth gyrraedd ei botensial, rhaid i Lywodraeth Cymru ddatganoli ysgogiadau economaidd hefyd, rwy’n meddwl, i ganolbarth Cymru, yn ogystal ag i ogledd Cymru. Rwy’n gweld bargen dwf ar gyfer canolbarth Cymru fel y ffordd orau ymlaen i roi mwy o bwerau i ganolbarth Cymru—cam hanfodol ac angenrheidiol er mwyn adfywio economi canolbarth Cymru, i ddarparu ateb penodol ar gyfer yr ardal gyda’r nod o ysbrydoli twf economaidd dan arweiniad lleol. Felly, cymeradwyaf ein cynnig y prynhawn yma i’r Cynulliad ac edrychaf ymlaen at gyfraniadau’r Aelodau eraill dros yr awr nesaf.