Part of the debate – Senedd Cymru am 4:39 pm ar 24 Mai 2017.
Mewn munud. Rwy’n awyddus iawn, o ran cefnogi canolbarth Cymru, i edrych ar sut y gallwn hybu gweithgareddau Tyfu Canolbarth Cymru, sy’n bartneriaeth bwysig. Yn sicr, mewn perthynas â bargen dwf ar gyfer canolbarth Cymru, byddwn yn awyddus iawn, fodd bynnag, i weld beth y mae Llywodraeth y DU, beth bynnag fydd yn digwydd ar ôl 8 Mehefin, yn bwriadu ei gyflwyno mewn gwirionedd yn rhan o gynnig ehangach o fargeinion twf, o bosibl, ar gyfer y DU. Fe gymeraf ymyriad gan arweinydd y Ceidwadwyr.