Part of the debate – Senedd Cymru am 4:41 pm ar 24 Mai 2017.
Diolch. Diolch i bawb sydd wedi siarad yn y ddadl hon. Diolch i Russell George am agor hyn drwy groesawu’r hwb economaidd i economi Cymru sy’n cael ei gyflawni drwy fod Llywodraeth y DU yn dileu’r tollau ar bontydd Hafren, gan ddangos bod Cymru ar agor ar gyfer busnes. A hefyd am bwysleisio’r angen am fargeinion twf gogledd a chanolbarth Cymru, lle mae pobl a busnesau yng ngogledd a chanolbarth Cymru, nid yn unig yn edrych i’r de tuag at y Llywodraeth, ond o ran eu bywyd economaidd a chymdeithasol, eu bod yn edrych tua’r dwyrain o ran eu symudiadau trawsffiniol, a hefyd i’r gorllewin i Iwerddon. Fel y dywedodd, mae angen inni gadarnhau gogledd Cymru fel rhan gynhenid o ranbarth economaidd trawsffiniol cyffrous sydd wedi’i gysylltu â Phwerdy Gogledd Lloegr. Dywedodd fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru ddatganoli ysgogiadau economaidd i ganolbarth Cymru hefyd.
Roedd Dai Lloyd yn cefnogi dileu tollau pontydd Hafren a datganoli pwerau i’r rhanbarthau Cymreig—mae’n galonogol iawn clywed hynny—a rhannodd ei wybodaeth drylwyr am dollau pontydd ar draws Prydain. Rwy’n awgrymu ei fod yn ysgrifennu mwy am hynny; byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn darllen am hynny. Wrth gwrs, nid oes unrhyw dollau ar bont Menai, ond mae angen trydedd groesfan ar draws y Fenai, rhywbeth y cyfeiriodd Ken Skates ato, wrth gwrs. Mae bron i ddegawd ers i Lywodraeth Cymru gomisiynu’r adroddiad annibynnol diwethaf a wnaeth argymhellion ar yr opsiynau ar gyfer hynny. Mae’n drueni ein bod wedi gorfod aros cyhyd i weld y diwrnod ailadroddus hwn yn cyrraedd eto fyth, ond rwy’n gobeithio y caiff dyhead y Gweinidog i gael penderfyniad ar gyfer symud ymlaen erbyn 2021 ei wireddu i bawb.
Clodforodd Dai Lloyd rinweddau morlyn llanw bae Abertawe, fel y gwnaeth sawl un arall, a phwysleisiodd yr angen i drydaneiddio rheilffyrdd y Cymoedd a rheilffordd arfordir gogledd Cymru, rhywbeth y mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn sicr yn ei gefnogi’n gryf.
Cyfeiriodd Nick Ramsay unwaith eto at benderfyniad y Prif Weinidog i ddileu tollau ar bont Hafren fel rhywbeth a fydd yn newid pellgyrhaeddol, gyda rhagolygon cyffrous i bobl ac economi Sir Fynwy. Cyfeiriodd at ffigurau gwerth ychwanegol gros yng Nghymoedd de Cymru, wrth gwrs, yn rhan o is-ranbarth gorllewin Cymru a’r Cymoedd, sydd wedi bod â’r gwerth isaf y pen o’r boblogaeth o ran nwyddau a gwasanaethau a gynhyrchir, neu’r gwerth ychwanegol gros, ar draws 12 gwlad a rhanbarth y DU ers bron i 20 mlynedd bellach—ers 19 mlynedd; holl gyfnod datganoli. Yn anffodus, mae’r bwlch cymharol wedi lledu, ac mae hyd yn oed y gornel fwyaf llewyrchus o ogledd Cymru a’r gogledd-ddwyrain wedi gweld y ffigur cymharol yn erbyn lefel y DU yn gostwng o bron i 100 y cant o werth ychwanegol gros y DU i 84 y cant yn unig. Pwysleisiodd yr angen i Lywodraeth Cymru weithio’n agos gyda Llywodraeth y DU. Mae’n hanfodol fod Llywodraeth nesaf y DU yn cael ei gweld, beth bynnag fo’i lliw, fel partner cadarnhaol gyda Llywodraeth Cymru a chan Lywodraeth Cymru.
Pwysleisiodd Jayne Bryant eto bwysigrwydd pont Hafren, yn yr achos hwn i Gasnewydd, lle hyfryd arall heb fod mor bell o’r fan hon. Rwy’n gresynu at y sylwadau pleidiol a ddilynodd—nid wyf am ymateb i’r rheini ar wahân i gydnabod ein bod yn wynebu etholiad cyffredinol. Llywodraeth y DU a gyhoeddodd y tollau yn 1962 mewn gwirionedd. Y Llywodraeth hon yn y DU sydd wedi cyhoeddi ei bod yn mynd i gael gwared arnynt. Fel y dywedodd, mae perygl—neu gostau a buddion o bosibl—o ddenu pobl o Fryste, a allai effeithio ar brisiau tai, ac mae angen cynorthwyo pobl ifanc lleol i fynd ar yr ysgol dai yma ac ym mhob man arall, yn enwedig o ystyried mai Cymru sydd wedi cael y toriadau mwyaf i gyllidebau tai fforddiadwy ar ôl datganoli o blith unrhyw un o wledydd y DU. Mae’n bwysig eich bod wedi cyfeirio at dro pedol, ond yn fy marn i, arweinwyr cryf sy’n gwrando ac yn penderfynu; arweinwyr gwan sy’n anwybyddu’r ffeithiau a saethu’r negesydd, rhywbeth a glywn yn rhy aml, yn anffodus, mewn rhai mannau eraill.
Croesawodd Neil Hamilton gyhoeddiad Theresa May eto, gydag ychydig o sylwadau hael wedi’u hychwanegu am fy mhlaid a’i gyn-blaid. Fel y dywedodd, byddai annibyniaeth wleidyddol i Gymru yn drychineb—fel y byddai, os caf ychwanegu, i weddill y DU.
Nododd Mark Reckless mai’r Llywodraeth Geidwadol yn 1992 a ddeddfodd i ddileu’r tollau ar ôl i’r pontydd ddychwelyd i’r sector cyhoeddus, a bod y Llywodraeth Geidwadol bellach yn cyflawni hynny. Dywedodd y bydd hyn yn ychwanegu at adfer hyder ar hyd coridor yr M4, cryfhau cysylltiadau rhwng de Cymru, Bryste a Llundain. Dywedodd fod agwedd sensitif a hyblyg Llywodraeth y DU tuag at ddatblygu rhanbarthol yng Nghymru yn galonogol, ond bod angen i Lywodraeth Cymru feithrin agwedd debyg.
Dywedodd Suzy Davies y gallai’r polisi rhanbarthol ar ôl Brexit edrych yn wahanol iawn yn y dyfodol, ond ei bod yn iawn i Gymru fanteisio ar bolisi rhanbarthol y DU yn awr. Fel y dywedodd—yr ymadrodd hyfryd—meddylwyr mawr mewn gwlad fach. Dylem groesawu’r ymrwymiad gan y Prif Weinidog yn hytrach na phwdu, fel y dywedodd. Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi ymrwymo i forlyn llanw bae Abertawe, fel y cydnabu’r Prif Weinidog wrthym, fel y pwysleisiodd Suzy. Y peth olaf sydd ei angen ar y morlyn llanw yn awr, meddai, yw Corbynomeg.
Yna ymatebodd Ysgrifennydd y Cabinet drwy ddweud bod Llywodraeth Cymru yn benderfynol o ledaenu ffyniant ledled Cymru—mae’n drueni mai ni, ers 1998, yw’r rhan o’r DU sydd wedi parhau i fod â’r gwerth ychwanegol gros isaf. Dywedodd fod tollau pontydd Hafren yn rhwystr, a dyna pam y cyhoeddodd Theresa May ei bod yn eu dileu. Yna gwnaeth osodiad gwan a sigledig fod hyder yn dychwelyd i dde Cymru, diolch i Lywodraeth Cymru. Mewn gwirionedd, mae’r rhan fwyaf o bethau wedi bod yn mynd tuag at yn ôl ers datganoli—nid oherwydd datganoli ond oherwydd y llywodraeth—ond mae’n ddiddorol fod y gwelliant mewn swyddi a chyflogaeth a mewnfuddsoddi wedi digwydd ers i’r Prif Weinidog Ceidwadol a Llywodraeth dan arweiniad y Ceidwadwyr ddod i rym yn 2010. Nid oedd yn digwydd cyn hynny yn sicr. Rwy’n gresynu at y ffaith ei fod wedi ymostwng i ymosodiad personol pitw yn erbyn cyd-Aelod. Ni ddywedaf fwy am hynny.
Cyfeiriodd at gyfarfod grŵp trawsbleidiol gogledd Cymru a Mersi a’r Ddyfrdwy heddiw. Roeddwn innau’n bresennol hefyd. Rwy’n croesawu’r ffaith ei fod yn bresennol. Rwy’n credu fy mod wedi fy ethol yn ddirprwy gyd-gadeirydd o’r grŵp hwnnw. Mae yna waith hanfodol i’w wneud. Rhaid i’r bargeinion twf ar bob ochr i’r ffin ategu ei gilydd, meddai Ysgrifennydd y Cabinet. Na, Ysgrifennydd y Cabinet—un bargen dwf ar gyfer y ddwy ochr i’r ffin honno yw hon. Dyna pam y mae gennym Gynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy, dyna pam y cynrychiolwyd Warrington yno heddiw ond dyna pam y cafodd Gwynedd ei chynrychioli yno heddiw hefyd. Tybed a allem ymgysylltu ag Iwerddon yn ogystal yn y dyfodol.
Cyfeiriodd at yr ymgynghoriad ar goridor Glannau Dyfrdwy. Yn wir, mae naw mlynedd, rwy’n credu, ers y bu’n rhaid dileu’r cynllun diwethaf gan Lywodraeth Cymru ar ôl i’w argymhellion gael eu—[Torri ar draws.] A hoffech sefyll?