Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 6 Mehefin 2017.
Dyna'n union y mae’n ei olygu. Os oes fformiwla newydd ar waith, dyna ddiwedd Barnett, ar yr adeg honno. Wrth gwrs, yn y byrdymor byddai Barnett yn parhau oherwydd nid oes unrhyw beth arall ar gael ar y pryd, ond rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod Cymru yn derbyn cyllid teg. Do, daethom i gytundeb ar gyllid, ac mae hynny oherwydd i Lywodraeth y DU wrthod yn benderfynol i edrych ar gyllid cyn belled ag y mae Cymru yn y cwestiwn. Roedd yn sefyllfa gyfaddawd. Nid ydym erioed wedi newid ein safbwynt, fel Llywodraeth, fod fformiwla Barnett wedi cyrraedd diwedd ei oes, a nawr yw'r amser i ddechrau cynllunio ar gyfer fformiwla newydd a fyddai'n adlewyrchu anghenion priodol gwahanol wledydd a rhanbarthau'r DU fel y maen nhw nawr, nid fel yr oedden nhw ym 1979.