Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 6 Mehefin 2017.
Efallai y gwnaiff y Blaid Lafur watwar, ond, yn y pen draw, mae ariannu gwasanaethau cyhoeddus yn ystyriaeth hanfodol i’r etholwyr ddydd Iau. Rydym ni wedi cyflwyno terfyn ariannu isaf, gyda chytundeb Llywodraeth Cymru, sy'n sicrhau na fydd cyllid yng Nghymru yn mynd o dan £115 ar gyfer pob £100 sy'n cael ei wario yn Lloegr. Dywedasoch chi, ddoe, mai polisi'r Blaid Lafur oedd cael gwared ar fformiwla Barnett. Mae Plaid Lafur yr Alban yn dweud nad yw hynny'n wir, ac mai’r cwbl a fydd yn cael ei gyflwyno yw ymgynghoriad. A oes ffaith bod holl bolisïau Llafur wedi eu hadeiladu ar dywod, Prif Weinidog?