Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 6 Mehefin 2017.
Hoffwn ddod yn ôl at y pwynt hwn am y gwahaniaethau yn y maniffestos rhyngoch chi a'ch arweinydd Llafur yn y DU. Gwahardd contractau dim oriau, diddymu ffioedd dysgu, y rheilffyrdd mewn dwylo cyhoeddus: dyna’r hyn sydd ym maniffesto’r DU. Mae Llafur mewn grym yma ac nid oes yr un o'r polisïau hyn wedi cael eu rhoi ar waith. A allwn ni gael ymrwymiad gennych chi nawr y byddwch chi’n rhoi eich cefnogaeth ddigamsyniol i'r polisïau hynny nawr ei fod yn bolisi swyddogol eich plaid, neu a ydych chi’n derbyn eich bod chi ar fin camarwain yr etholwyr ddydd Iau?