<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 6 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 1:54, 6 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Rwy'n gweld hefyd ar wefan y BBC heddiw bod y Llywodraeth wedi bod mewn trafodaethau gyda'r nod o gael pencampwriaeth golff Agored Prydain i ddod i Gymru, a'r Tour de France hefyd, a cheir posibilrwydd hefyd, os nad yw stadiwm Brwsel yn barod mewn pryd, y gallai Ewro 2020 gael ei gynnal yng Nghymru, a byddwn yn cefnogi diddordeb y Llywodraeth yn hynny. Mae Ken Skates wedi dweud yn ddigon teg bod gan Gymru botensial mawr i gynnal digwyddiadau mawr newydd nad ydynt wedi bod i Gymru eto. Mae Cylchffordd Cymru eisoes wedi ennill y contract ar gyfer y Moto Grand Prix, ac mae hwnnw’n gyfle arall eto i ni yng Nghymru i ddangos yr hyn y gallwn ei wneud fel cynhaliwr prosiectau chwaraeon mawr y byd. Ac felly mae hyn yn cyd-fynd ag amcan cyffredinol y Llywodraeth o sicrhau bod Cymru yn lleoliad chwaraeon rhyngwladol o bwys, ac mae hynny'n rheswm arall i ni weld llwyddiant y prosiect hwn.