Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 6 Mehefin 2017.
Mae trafodaethau wedi cymryd lle gyda Network Rail ynglŷn â hyn; mae’r Gweinidog wedi bod yn gwneud hynny. Mae hyn yn rhan o beth sy’n cael ei ystyried ynglŷn â datblygiad y porthladd ei hunan. Ac, wrth gwrs, ynglŷn â’r ynys, Ynys Môn, rŷm ni yn edrych nawr ar y drydedd groesfan dros y Fenai ei hunan. Mae’r cyfnod nesaf o’r gwaith datblygu wedi dechrau, a bydd yna lwybr yn cael ei ddatgan ym mis Mai 2018. Felly, mae hynny yn symud ymlaen yn y ffordd byddem ni’n erfyn.