<p>Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 6 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:02, 6 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Ydy, maen nhw. Ceir nifer o bosibiliadau sy'n cael eu harchwilio yn ffatri Ford. Ni ddylem anghofio, ym mis Medi y llynedd, bod Ford wedi cyhoeddi y byddai'n buddsoddi £100 miliwn yn y safle o ddiwedd 2018. Rwy'n credu ei bod yn deg dweud mai'r her fwyaf y mae'r gwaith yn ei hwynebu yw Brexit. Mae pob un peiriant sy'n gadael y ffatri yn cael ei allforio i'r farchnad Ewropeaidd ac felly bydd y telerau sy'n gysylltiedig ag allforio’r peiriannau hynny yn bwysig cyn belled ag y mae’r ffatri yn y cwestiwn. Ond rydym ni’n gweithio'n agos iawn gyda'r cwmni. Rwyf wedi cyfarfod, yn rhinwedd fy swydd fel Aelod Cynulliad, sawl gwaith gyda nhw a chyda chyngor y gwaith, ac fel Prif Weinidog, wrth gwrs, rwyf wedi cymryd diddordeb mewn sicrhau bod y ffatri yn parhau i weithredu yn y dyfodol ac yn parhau i gyflogi niferoedd tebyg yn y dyfodol.