Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 6 Mehefin 2017.
Rwyf i wedi cwrdd â phrif weithredwr Ford a hefyd Ford Ewrop, a hefyd, wrth gwrs, mae yna gyfarfodydd yn cymryd lle rhwng y Gweinidog a swyddogion. Mae’n wir i ddweud bod yna bryderon ynglŷn â beth fydd yn digwydd ar ôl i’r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd. Nid oes neb yn credu y bydd yna unrhyw fath o gytundeb cyflawn ym mis Mawrth 2019, felly bydd y trefniadau dros dro yn hollbwysig i Ford a hefyd i lawer o gynhyrchwyr eraill. Mae hwn yn rhywbeth mae Ford yn ei ystyried ar hyn o bryd. Maen nhw wedi bod yn siarad â ni ynglŷn â hynny, ac, wrth gwrs, ein safbwynt ni yw hwn: mae’n hollbwysig i Ford a sawl cwmni arall yng Nghymru eu bod yn gallu cael mynediad i’r farchnad sengl heb unrhyw fath o rwystr.