Part of the debate – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 6 Mehefin 2017.
A gaf i ofyn i chi am ddatganiad ar gefnffordd yr A55? Bydd y Gweinidog yn ymwybodol o ddigwyddiad a achosodd dagfeydd am 13 milltir ar yr A55 dros y penwythnos. Roedd hynny yn ystod penllanw tymor twristiaeth, fel petai, yn y rhan honno o’r gogledd. Cafodd y traffig ei ddal yno am bum awr. Mi fuon nhw yno yn disgwyl cyhyd fel bod rhai’n llythrennol yn dawnsio llinell ar ffordd ddeuol yr A55; a rhai’n chwarae criced ar ffordd ddeuol yr A55. Nawr, rwy’n deall y bydd pethau’n digwydd o bryd i'w gilydd ar y gefnffordd brysur iawn hon, nad oes iddi leiniau caled digonol ar ei hyd cyfan, ond bu cost sylweddol ar y trethdalwr ychydig flynyddoedd yn ôl, pan osodwyd gatiau o fewn rhwystr y llain ganol ar yr A55. Mae angen i ni gael eglurhad, yn fy marn i, ar gyfer pobl y gogledd, ac ar gyfer y busnesau twristiaeth a effeithiwyd gan y dagfa echrydus hon, am pam na chafodd y rhwystrau canolog eu hagor ar y pryd a pham y bu cymaint o oedi. Mae pethau fel hyn yn annerbyniol ac mae'n rhaid i ni ddechrau defnyddio ac elwa ar y buddsoddiad sydd wedi ei wneud yn y rhan honno o'r rhwydwaith cefnffyrdd. A gawn ni ddatganiad am hynny fel nad oes rhaid i ni ddioddef y cywilydd o’r math hyn problemau a’i chawlio hi fel hyn eto yn y dyfodol?