Part of the debate – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 6 Mehefin 2017.
Fe wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet ymateb yn gadarnhaol, Russell George, i'r cais hwnnw. Dywedodd y byddai'n rhannu copi o ymateb Llywodraeth Cymru i strategaeth ddiwydiannol y DU. Mae’r ymateb hwnnw yn barod erbyn hyn, a bydd yn cael ei rannu gyda'r holl ACau. Bydd yn cael ei anfon at bob AC. Llythyr, wrth gwrs, at Greg Clark, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol yw hwnnw, a byddwch chi, wrth gwrs, yn cael copi ohono cyn gynted ag y caiff ei gyhoeddi, sef gyda hyn.