Part of the debate – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 6 Mehefin 2017.
Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ar fenthyciadau a grantiau a roddir gan awdurdodau lleol yng Nghymru ar gyfer adnewyddu tai ac adeiladau busnes yng Nghymru? Rhoddwyd £20,000 mewn gwirionedd i etholwr i mi ar gyfer gwella adeilad ei fusnes. Rhoddodd ef £9,000 o’i arian ei hun, felly costiodd bron i £29,000 iddo dair blynedd yn ôl. Tair blynedd yn ddiweddarach, mae'r cyngor lleol yn mynnu ei fod yn ad-dalu'r £20,000. Os na fydd yn gwneud hynny, byddan nhw’n cymryd ei eiddo ac yn ei adfeddiannu. Felly, dyna’r math o bethau y mae busnesau’n eu hwynebu, sy'n gwbl annerbyniol, yn fy marn i, i’r busnesau hynny sydd eisiau tyfu yng Nghymru. Ac rydym eisiau gwella y rhai hynny yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn y de-ddwyrain. Er fy mod yn cydnabod gwerth y grantiau a’r benthyciadau hyn i wella eiddo, a gawn ni ddatganiad ynglŷn â pham y gall awdurdodau lleol fynnu neu hawlio ad-daliadau o fenthyciadau gwreiddiol yn llawn ar ôl tair blynedd, ac nad yw busnesau yn cael fawr o amser i dalu’n ôl dros gyfnod llawer yn hwy? Erbyn hyn, maen nhw’n gofyn am yr arian i gyd yn ogystal â llog. Felly, a allwch chi wneud datganiad ynglŷn â’r mater hwn os gwelwch yn dda? Diolch.