Part of the debate – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 6 Mehefin 2017.
Arweinydd y tŷ, a oes modd cael datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet am adfywio, o ran cyllid y Lleoedd Llwyddiannus Iawn y mae Llywodraeth Cymru yn ei gyflwyno, ar gyfer adfywio ledled Cymru yn amlwg? Fel rwy’n ei deall hi, rwy’n credu bod yna ail gyfran o'r arian hwnnw yn cael ei rhoi ar gael, a byddwn yn falch iawn o gael gwybod a fyddai’r Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno i nodi’n benodol pa un a yw’r lleoedd na chawsant elwa ar y gyfran gyntaf o’r cyllid yn gallu gwneud cais nawr am ryw elfen o’r ail gyfran honno. Yn fy rhanbarth etholiadol fy hunan, er enghraifft, ni roddwyd dim i’r Barri yn y rownd gyntaf, ac rwy'n siŵr y byddech chi fel yr aelod ar ran yr etholaeth yn hoffi croesawu'r cyfle, pe byddai’r arian hwnnw ar gael yn yr ail gyfran, i'r cyngor newydd wneud cais am arian o’r fath os yw ar gael.