Part of the debate – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 6 Mehefin 2017.
Diolch, Cadeirydd. Mae'n bleser gennyf siarad fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid am y Bil hwn, ond hefyd, fel aelod blaenorol o’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, rwy'n falch o weld y Bil yn gwneud rhywfaint o gynnydd. Cyn imi sôn am ystyriaeth ein pwyllgor i oblygiadau ariannol y Bil, mae'n rhaid imi ymdrin yn gyntaf â llythyr y Gweinidog ar 25 Mai, y mae Lynne Neagle hefyd newydd gyfeirio ato, a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y newidiadau a ragwelir i asesiad effaith rheoleiddiol y Bil. Rwyf hefyd yn siomedig iawn na chafodd y newidiadau hyn eu rhannu â ni tan y diwrnod ar ôl dyddiad cau adrodd Cyfnod 1, gan atal yr wybodaeth hon rhag ffurfio rhan o ystyriaeth ein pwyllgor cyn dadl heddiw.
Mae'r newidiadau hyn yn sylweddol, yn cael effaith sylweddol ar gostau’r Bil, ac, oherwydd amseriad y cyhoeddiad, nid ydynt wedi cael sylw ychwaith yn ein hadroddiad. Mae maint y diwygiadau ar y cam hwn o hynt Bil yn frawychus; mae’r Gweinidog nawr yn amcangyfrif y bydd y Bil yn costio £8.3 miliwn dros y cyfnod gweithredu, sef pedair blynedd, yn hytrach nag yn arbed £4.8 miliwn. Mae hyn yn cynrychioli cyfanswm newid costau o £13.1 miliwn. Ar ben hynny, mae'r Gweinidog wedi nodi y gallai’r ffigurau hyn newid eto ac na fydd y ffigurau terfynol ar gael tan y cyhoeddir asesiad o effaith rheoleiddiol diwygiedig cyn trafodion Cyfnod 3, y bwriedir ar hyn o bryd eu cynnal ym mis Medi. Yng ngoleuni'r wybodaeth hon, ysgrifennais at y Gweinidog i ofyn iddo oedi cyn cynnig penderfyniad ariannol ynglŷn â'r Bil tan i grynodeb wedi’i ddiweddaru o'r costau gael ei ddarparu a’i graffu. Ysgrifennodd y Gweinidog at yr Aelodau y bore yma ac mae wedi cadarnhau i'r Cyfarfod Llawn heddiw y bydd yn gohirio cynnig y penderfyniad ariannol ac y cyhoeddir asesiad effaith rheoleiddiol diwygiedig erbyn diwedd toriad yr haf. Fel cyn-aelod gweithgar iawn o'r Pwyllgor Cyllid, fel yr wyf yn cofio, yn ei dymor cyntaf yn y Cynulliad, rwy'n siŵr ei fod yn deall pryderon y Pwyllgor Cyllid yn y maes hwn ac yn gwerthfawrogi y byddwn yn awr yn cael cyfle i edrych ar yr asesiad o effaith diwygiedig hwnnw cyn y cynigir penderfyniad ariannol.
Dyma, fodd bynnag, lle mae pethau'n mynd ychydig yn gymhleth, os caf ddweud hynny, Cadeirydd, oherwydd, ar adeg cyflwyno'r Bil, roedd yr asesiad effaith rheoleiddiol sydd wedi’i gyhoeddi ar hyn o bryd yn amcangyfrif arbedion o dros £14.2 miliwn dros bedair blynedd. Fodd bynnag, fe'n cynghorwyd gan y Gweinidog y diwrnod cyn ein sesiwn dystiolaeth fod camgymeriadau wedi eu canfod yn yr asesiad o effaith rheoleiddiol, a olygodd bod yr arbedion a ragwelwyd wedi gostwng i £12.8 miliwn dros y cyfnod o bedair blynedd. Mae ein hadroddiad yn cydnabod sicrwydd y Gweinidog bod y ffigurau diwygiedig hyn yn gadarn. Serch hynny, roeddem yn siomedig na chafodd y camgymeriadau hyn eu canfod cyn cyflwyniad y Bil a gwnaethom argymell diweddaru’r asesiad o effaith rheoleiddiol i ystyried y wybodaeth ariannol ddiwygiedig. Yn amlwg, fodd bynnag, nid oedd y ffigurau diwygiedig yn gadarn, oherwydd mae llythyr diweddaraf y Gweinidog yn nodi arbedion amcangyfrifedig o ddim ond £3.7 miliwn dros y cyfnod o bedair blynedd. Felly, i grynhoi, rydym wedi mynd o arbedion disgwyliedig dros bedair blynedd o £14.2 miliwn i ffigwr heddiw o £3.7 miliwn. Ond nid yw'r ffigurau hyn wedi eu harchwilio gan y Pwyllgor Cyllid ac nid ydynt yn rhan o'n hadroddiad heddiw. Mae'r newid sylweddol yn cael ei briodoli i raddau helaeth i bryderon a godwyd gan SNAP Cymru ynglŷn ag anghytundebau ac apeliadau. Mae llythyr y Gweinidog yn datgan bod ei swyddogion wedi cyfarfod â SNAP Cymru ym mis Mawrth, felly mae'r pwyllgor yn awyddus i ddeall pam na chafodd canlyniad y trafodaethau hyn ei rannu â’r pwyllgor cyn dyddiad cau Cyfnod 1.
Datblygiad allweddol arall yn ystod ein gwaith craffu oedd cyhoeddiad y Gweinidog o fuddsoddiad ychwanegol o £20 miliwn i gefnogi dysgwyr ADY. Eglurodd y Gweinidog fod y buddsoddiad hwn yn berthnasol nid dim ond i gyflawni'r Bil, ond hefyd i weithgaredd gweddnewidiol ehangach, a rhoddodd ragor o fanylion am y dyraniad cyllid a ragwelir i gefnogi ailwampio'r system ADY. Yn ein hadroddiad, rydym yn cydnabod uchelgais Llywodraeth Cymru i ailwampio'r system, ond credwn hefyd fod costau gweithredu'r Bil wedi cael eu tanbrisio. Rydym felly'n croesawu'r buddsoddiad ychwanegol o £20 miliwn. Er ein bod yn cydnabod bod cyd-destun newid gweddnewidiol yn ei gwneud yn fwy heriol i gategoreiddio costau, mae'n bwysig ein bod yn deall sut y caiff yr arian hwn ei ddyrannu’n uniongyrchol i hwyluso a chefnogi’r broses o roi’r Bil ar waith er mwyn cynnal gwaith craffu ariannol cadarn. O ganlyniad, rydym yn argymell bod unrhyw asesiad o effaith rheoleiddiol diwygiedig yn egluro pa un a yw’r buddsoddiad ychwanegol o £20 miliwn yn cael ei ddarparu at ddibenion y Bil. Mae llythyr diweddar y Gweinidog yn nodi mai Llywodraeth Cymru fydd yn talu’r gost ddiwygiedig o £8.3 miliwn sy'n gysylltiedig â'r Bil ac y daw’r arian hwn o’r pecyn ariannu £20 miliwn i’w roi ar waith. Mae hyn yn codi cwestiynau pellach, fodd bynnag, ynghylch diben y pecyn cyllido ac effaith y cynnydd mewn costau gweithredu ar y cynlluniau blaenorol i ddyrannu'r cyllid hwnnw.
Mae’r prif faes arall sy'n peri pryder a amlygwyd yn ein hadroddiad yn ymwneud ag arian pontio Llywodraeth Cymru, a ddarperir i gyrff eraill er mwyn cyflawni darpariaethau'r Bil. Mae hyn yn cynnwys tua £7 miliwn mewn grantiau pontio sydd ar gael i awdurdodau lleol a sefydliadau eraill i gefnogi’r broses o roi’r Bil ar waith. Rydym yn croesawu bwriad y Gweinidog i ddatblygu dyraniad seiliedig ar fformiwla a’i ymrwymiad i leihau biwrocratiaeth a baich proses ymgeisio. Fodd bynnag, credwn fod angen arweiniad ariannol clir, ac felly rydym wedi argymell y dylai'r arian grant gael ei neilltuo.
Mae'r Bil hefyd yn cynnig trosglwyddo cyfrifoldeb am gynllunio a sicrhau darpariaeth addysg bellach arbenigol ôl-16 o Lywodraeth Cymru i awdurdodau lleol. Mae hyn yn cynnwys trosglwyddo cyllideb flynyddol bresennol Llywodraeth Cymru o £12.4 miliwn i'r grant cynnal refeniw. Roedd y Gweinidog yn pryderu y byddai neilltuo’r cyllid hwn yn arwain at gapio cyllidebau, yn hytrach na chefnogi system gyllido sy’n seiliedig ar anghenion. Fodd bynnag, mae'r pwyllgor yn parhau i fod yn bryderus nad yw awdurdodau lleol yn dyrannu’r cyllid a drosglwyddwyd yn ôl y bwriad ac maen nhw wedi argymell bod yn rhaid neilltuo’r arian i gyflawni'r cyfrifoldebau a drosglwyddwyd.
Mae ein hadroddiad yn ymdrin â nifer o argymhellion eraill, ond nid oes gennyf amser, yn anffodus, Cadeirydd, i sôn yn fanwl amdanynt. Ond un yr hoffwn iddo gael sylw'r Cynulliad yw ein hargymhelliad ynghylch y swyddogaeth swyddog arweiniol clinigol addysgol dynodedig statudol, a'r effaith, felly, ar ddarpariaeth ADY byrddau iechyd, sy'n adlewyrchu rhai o drafodaethau'r pwyllgor arall.
I gloi, os caf i, Cadeirydd, mae’r lefelau adolygu wedi codi pryderon difrifol ynghylch dilysrwydd costiadau’r Llywodraeth a'i gallu i ariannu’r Bil a’i roi ar waith yn llwyddiannus. Mae’n rhaid i'r Llywodraeth sicrhau bod yr asesiad o effaith rheoleiddiol diwygiedig, a addawyd erbyn diwedd toriad yr haf, yn cael ei gyhoeddi mewn da bryd, yn gywir ac yn gadarn, ac yn caniatáu inni i gyd yn y Cyfarfod Llawn ac yn y pwyllgor i ganiatáu ar gyfer craffu priodol cyn y cynigir penderfyniad ariannol yn y Cyfarfod Llawn. Diolch yn fawr.