Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 7 Mehefin 2017.
Diolch i Rhianon Passmore, wrth gwrs, am ei chwestiwn, ac yn wir, rwyf wedi gweld adroddiad Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu yng Nghymru, ac mae’n dweud fod disgwyl i allbwn adeiladu yng Nghymru fod yn gryfach nag yn unrhyw ran arall o’r Deyrnas Unedig dros y pedair blynedd hyd at 2021. Y rheswm pam y bydd allbwn adeiladu mor gryf â hynny yng Nghymru, yn rhannol o leiaf, yw oherwydd y gwerth bron i £7 biliwn o wariant cyfalaf a nodir yn ein cyllideb ar gyfer y pedair blynedd nesaf, ar gyfer buddsoddi mewn ysgolion, buddsoddi mewn tai, buddsoddi mewn trafnidiaeth. Mae’r holl bethau hynny’n dod â gwaith i’r diwydiant adeiladu, a dyna pam fod Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu yng Nghymru yn gallu rhagweld y cyfnod cryf iawn hwnnw o allbwn dros y pedair blynedd nesaf.