<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 7 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:42, 7 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Llywydd, aeth Bill Clinton ati i godi trethi. Cododd y dreth ac aeth y ddyled gyhoeddus yn llai. Aeth ei olynydd, George W. Bush, ati i dorri trethi. Casglwyd llai o drethi, a gadawodd ei swydd gyda dyled gyhoeddus o 101 y cant o’r lefel a adawodd Clinton iddo ym mlwyddyn olaf ei arlywyddiaeth. Mae’n hollol anghywir awgrymu, fel y gwna’r Aelod dro ar ôl tro, mai i un cyfeiriad yn unig y gall economïau symud, a byddai ei gyfarwyddyd ef, sef torri trethi, yn rhoi arian i bobl gyfoethog, ac yn mynd ag ef oddi wrth bobl a fyddai fel arall yn ei wario ac yn creu gweithgarwch economaidd, yn niweidiol iawn i’r ffordd rydym yn gwneud busnes yng Nghymru.