Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 7 Mehefin 2017.
Roeddwn yn meddwl tybed a gaem ddychwelyd at dranc fformiwla Barnett, y gorliwiwyd y sibrydion yn ei gylch, o bosibl. Clywsom yn gynharach yn yr wythnos gan Brif Weinidog Cymru ei bod yn mynd i gael ei diddymu. Mae Kezia Dugdale, arweinydd Plaid Lafur yr Alban, fel y gwyddom, wedi’i chofnodi’n dweud,
Byddaf yn cadw fformiwla Barnett heddiw, yfory ac am byth, sy’n swnio’n eithaf pendant i mi. Nawr, dywedodd y Prif Weinidog ei fod wedi siarad â Kezia Dugdale. Wel, ar ambell achlysur prin, fe fydd yn siarad gyda mi hyd yn oed, ond nid yw hynny’n golygu ein bod o reidrwydd yn cytuno. Felly, tybed a allai Ysgrifennydd y Cabinet ddefnyddio’i drylwyredd pwyllog arferol wrth ateb y cwestiwn hwn, a dweud wrthym beth a olygir wrth y diwygio hirdymor o ran y modd y mae’r DU yn dyrannu gwariant cyhoeddus a nodir ym maniffesto’r Blaid Lafur? A yw o reidrwydd yn golygu cael gwared ar fformiwla Barnett a chael rhywbeth arall yn ei lle? Beth yw’r amserlen ar gyfer y diwygio hwnnw, a phryd y byddai’r effeithiau’n dechrau dod i’r amlwg yma yng Nghymru, pe bai Llywodraeth San Steffan yn newid?