<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 7 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative 1:49, 7 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, ddoe, ni chynigodd Llywodraeth Cymru y cynnig i gytuno’r penderfyniad ariannol mewn perthynas â’r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru)—y tro cyntaf, rwy’n credu, i hyn ddigwydd, er bod problemau wedi bod gyda chostio deddfwriaeth yn flaenorol. Fel Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid, a ydych yn pryderu ei bod yn ymddangos bod y costau sy’n gysylltiedig â deddfwriaeth a gyflwynir gan y Llywodraeth yn aml iawn—ar y gorau—yn niwlog, neu fel ddoe, yn gwbl gamarweiniol?