<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 7 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:55, 7 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Llywydd, a gaf fi ei gwneud yn glir fy mod yn cytuno â neges ganolog y cwestiynau a ofynnwyd gan Nick Ramsay y prynhawn yma? Mae gan y Llywodraeth gyfrifoldeb pwysig, wrth gyflwyno deddfwriaeth, i sicrhau bod y costau cysylltiedig yn cael eu cyfrifo mor drwyadl ac mor ddibynadwy ag y gallwn. Mae’r system sydd gennym yn system sy’n aeddfedu. Wrth iddi aeddfedu, dylem allu gwneud hyn yn well. Credaf y bydd ymchwiliad y Pwyllgor Cyllid yn gyfraniad defnyddiol at y broses honno, ac mae’n uchelgais gennyf sicrhau fel y Gweinidog cyllid a fy holl gyd-Aelodau yn y Cabinet, fe wn, pan fyddwn yn cyflwyno’r cynigion ar lawr y Cynulliad, eu bod yn seiliedig ar gymaint o ddadansoddiadau a data cadarn ag y gallant fod.