Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 7 Mehefin 2017.
Rwy’n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn awyddus i ymuno â mi i longyfarch y Cynghorydd James Lusted yn Llandrillo-yn-Rhos ar gael ei ethol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Y Cynghorydd Jay yw’r cynghorydd cyntaf â thwf cyfyngedig a etholwyd yma yn y DU. Mae ganddo hanes balch iawn o ymgyrchu dros hawliau anabledd. Tybed beth fyddwch yn ei wneud, yn benodol, nid yn unig i fynd i’r afael â’r broblem o ran y rhywiau yng ngwleidyddiaeth llywodraeth leol yng Nghymru, ond i sicrhau hefyd fod pobl ag anableddau’n cael eu cynrychioli’n briodol yn yr awdurdodau lleol hefyd.