<p>Amrywiaeth yn Llywodraeth Leol Cymru</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 7 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Labour 2:01, 7 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Gwn ein bod eisoes wedi trafod y mater hwn yma heddiw—roeddwn yn awyddus i dynnu sylw at lwyddiannau cyngor Rhondda Cynon Taf, lle mae 43 y cant o’r cynghorwyr yn fenywod, fel y mae pedair o’r naw aelod o’r cabinet, ac mewn gwirionedd, yn fy etholaeth i, etholwyd mwy o gynghorwyr benywaidd nag o ddynion. Yn amlwg, fodd bynnag, o’r sylwadau a glywsom yma heddiw, mae angen gwneud cynnydd mewn mannau eraill. A oes unrhyw beth arall y gallwch ei ychwanegu at yr ateb rydych eisoes wedi’i roi i fy nghyd-Aelod Dawn Bowden ynglŷn â sut y gallwn roi camau mwy ymarferol ar waith, yn ogystal ag annog cynghorau lleol i fabwysiadu’r arferion gorau?