Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 7 Mehefin 2017.
Wel, Llywydd, gadewch i mi fod yn gadarnhaol: credaf fod gan bob awdurdod lleol, arweinyddiaeth wleidyddol ac arweinyddiaeth broffesiynol ddyletswydd i sicrhau bod cyd-destun yn cael ei greu lle mae pobl o bob cefndir yn teimlo’n gyfforddus wrth ymgymryd â chyfrifoldebau swydd etholedig, a lle mae’r cyfraniadau a wnânt yn cael eu cydnabod a’u parchu. Yn y Papur Gwyn a gyhoeddais ar ddiwygio llywodraeth leol, rydym yn argymell gosod dyletswyddau newydd ar arweinwyr grwpiau gwleidyddol mewn awdurdodau lleol i gynnal y safonau ymddygiad y byddem yn disgwyl eu gweld, ac i sicrhau bod y berthynas barchus rhwng aelodau etholedig, sy’n cydnabod amrywiaeth ac yn ei dathlu yn hytrach na cheisio’i dileu, yn ganolog i’r ffordd rydym yn cyflawni gwaith llywodraeth leol yma yng Nghymru.