<p>Y Berthynas rhwng Llywodraethau Cymru a Qatar</p>

Part of 3. 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 7 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 2:22, 7 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Fel rwyf wedi’i ddweud eisoes, nid yw materion tramor wedi’u datganoli. Rydym yn derbyn cyngor y Swyddfa Dramor a Chymanwlad, fel y byddai Neil Hamilton yn ei gydnabod. Rydym yn gweithio o fewn canllawiau’r DU ar gyfer masnach a buddsoddi rhyngwladol, ac mae cyflwyno’r cyswllt awyr newydd rhwng Doha a Chaerdydd yn gytundeb masnachol rhwng Maes Awyr Caerdydd a Qatar Airways. Mae hwn yn datblygu fel y cynlluniwyd.