Part of 3. 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 7 Mehefin 2017.
Arweinydd y tŷ, rwy’n credu y bydd Qatar Airways yn dechrau’r cwmni hedfan y flwyddyn nesaf, fel y clywsom gan y Prif Weinidog. Gwn fod pobl Qatar yn cael amser anodd iawn ar hyn o bryd yn gwella delwedd fyd-eang y wlad ar gymorth i derfysgwyr a phethau eraill. Hefyd, peidiwch ag anghofio eu bod yn cynnal gemau pêl-droed cwpan y byd yno. Felly, beth yw’r canlyniadau os nad yw Qatar yn dod i Gymru neu os na ddaw rhyw fath o drefniant i gasgliad ffrwythlon yng ngwledydd y dwyrain canol? Beth yw safbwynt ein Llywodraeth ar faterion lle y ceir cydweithrediad rhyngwladol ar derfysgaeth yn y gwahanol wledydd roeddem yn sôn amdanynt yn gynharach yn y Siambr hon? Diolch.