Part of the debate – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 7 Mehefin 2017.
Yn Eglwys Gadeiriol Bangor heddiw, mae teulu, cyfeillion ac edmygwyr yn cofio, yn diolch am, ac yn dathlu bywyd Irfon. Nid oes prin angen defnyddio’i enw llawn o. Mi ddaeth Irfon Williams i’n sylw ni i gyd drwy ei frwydr yn erbyn canser. Mi oedd hi’n frwydr bersonol iddo fo—brwydr am ei iechyd a’i fywyd ei hun. Mi oedd angen dewrder a phenderfynoldeb ar gyfer y frwydr honno, ac mi ddangosodd Irfon hynny fil gwaith drosodd. Ond mi drodd brwydr Irfon yn un dros bawb oedd yn neu oedd wedi wynebu’r un argyfwng mewn bywyd—a phob un a allai wynebu hynny rywbryd, ac mae hynny’n cynnwys pob un ohonom ni.
Yn helpu’r tenor Rhys Meirion i siafio gwallt Irfon yn Eisteddfod yr Urdd yn y Bala y cefais i ei gyfarfod o gyntaf ar ôl ei ddiagnosis. Codi arian oedd y nod bryd hynny, ac mi oedd codi ymwybyddiaeth yr un mor bwysig i Irfon, a chodi ymwybyddiaeth—yn ei eiriau o—o’r hawl i fyw, yr hawl i driniaeth, yr hawl i bawb gael pob cyfle posib i oroesi yn erbyn creulondeb canser.
Mi oedd yn briodol iawn bod Irfon wedi dod yn aelod allweddol o’r panel ar adolygu ceisiadau cyllido cleifion yng Nghymru, a bod hynny wedi arwain at system a fydd, rydym ni i gyd yn gobeithio, yn arwain at ragor o degwch i gleifion lle bynnag y maen nhw. Ond heddiw, wrth inni anfon ein cydymdeimlad dwysaf at ei wraig, Becky, a’r plant, rydym ni’n cofio Irfon, y gŵr bonheddig a oedd, ac a fydd yn parhau, yn ysbrydoliaeth i gymaint.