Part of the debate – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 7 Mehefin 2017.
Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy’n falch iawn o gynnig y cynnig hwn yn enw Paul Davies ac edrych ar yr argyfwng tai sy’n bodoli ar hyn o bryd yng Nghymru. Mae’r naill lywodraeth ar ôl y llall yng Nghymru wedi methu â mynd i’r afael ag anghenion tai sydd wedi bod yn eithaf amlwg bellach ers cenhedlaeth neu fwy. Mae’r angen cynyddol am dai cymdeithasol, tanfuddsoddi ers datganoli, a’r sioc economaidd ar ôl 2008, a diffyg uchelgais llwyr gan Lywodraeth Cymru, oll wedi arwain at ostyngiad cyffredinol yn nifer y tai a gaiff eu hadeiladu o’i gymharu â’r hyn sydd angen i ni ei wneud. Yn hytrach na mynd i’r afael ag anghenion tai drwy ateb marchnad gyfan yn seiliedig ar berchentyaeth a hybu cyfraddau adeiladu tai ar gyfer rhentu preifat a chymdeithasol, mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu dilyn y rhith o ddileu’r hawl i brynu, fel pe bai hynny’n mynd i fod yn rhan allweddol o fynd i’r afael â’n hanghenion tai, neu osod targedau sy’n ymddangos yn galonogol ar yr olwg gyntaf, ond pan edrychwch ar y manylion, maent yn llawer llai uchelgeisiol. Cyfeiriaf at y targed o adeiladu 20,000 yn rhagor o gartrefi fforddiadwy yn ystod tymor y Cynulliad hwn, nad yw ond yn 2,500 yn fwy na chynlluniau blaenorol. Dylid canolbwyntio’n llwyr ar adeiladu tai. I ddyfynnu Sefydliad Bevan, nid oes digon o dai newydd yn cael eu hadeiladu i ddiwallu’r anghenion a ragwelir. Dyna’n syml yw’r sefyllfa rydym ynddi ar hyn o bryd. Mewn gwirionedd, nid yw Llywodraeth Cymru yn cyrraedd ei thargedau annigonol ei hun hyd yn oed. Yn 2015-16, 6,900 o gartrefi yn unig a adeiladwyd, a oedd yn bell iawn o darged Llywodraeth Cymru o 8,700. Yn wir, nid yw Llywodraeth Cymru wedi cyrraedd ei tharged ei hun ers 2007-08, bron i 10 mlynedd yn ôl.
Os caf siarad am y prinder cyffredinol o gartrefi, rwy’n credu ein bod wedi wynebu problem ers o leiaf 2004, pan gafodd un Llywodraeth ar ôl y llall yng Nghymru—ac nid llywodraethau dan arweiniad Llafur yn unig; mae Plaid Cymru wedi bod mewn Llywodraeth yn ogystal—eu rhybuddio am yr angen enbyd am dai, ond nid ydynt wedi cymryd y camau angenrheidiol i adeiladu mwy o gartrefi. Amcangyfrifir bod 90,000 o bobl ar restrau aros yng Nghymru. Yr un yw’r ffigur heddiw â’r un a gofnodwyd yn 2011—dim cynnydd. Ar ben hynny, amcangyfrifodd Cartrefi Cymunedol Cymru fod 8,000 o deuluoedd yng Nghymru wedi bod ar restr aros tai fforddiadwy ers cyn etholiadau 2011, ac mae 2,000 arall wedi bod ar y rhestr aros ers cyn etholiadau 2007. Mewn cymhariaeth, mae cynghorau Lloegr wedi lleihau nifer y teuluoedd ar eu rhestrau aros yn sylweddol: mae’r ffigur wedi disgyn 36 y cant rhwng 2012 a 2016. Yn y sector preifat, mae perchentyaeth, i bob pwrpas, y tu hwnt i gyrraedd llawer o gyplau sy’n cael incwm eithaf rhesymol hyd yn oed oni bai bod ganddynt fynediad at adnoddau eraill. Mae pris cyfartalog tŷ yng Nghymru bellach yn 5.8 gwaith y cyflog cyfartalog yng Nghymru oherwydd—yn rhannol, o leiaf—nad ydym yn adeiladu digon o gartrefi, ac mae prisiau’n codi’n ormodol.