Part of the debate – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 7 Mehefin 2017.
Rwyf eisiau siarad am amcangyfrif mwy rhesymegol o anghenion tai. Ac yma, rwyf o leiaf yn canmol Llywodraeth Cymru am gomisiynu adroddiad effeithiol a edrychodd ar hyn yn iawn, ac rwy’n cyfeirio at yr adroddiad ‘Future Need and Demand for Housing in Wales’, a luniwyd gan y diweddar Athro Holmans. Roedd yr adroddiad hwnnw’n amcangyfrif bod Cymru angen hyd at 240,000 o unedau tai newydd rhwng 2011 a 2031, neu 12,000 o unedau newydd bob blwyddyn. Mae’r ffigur hwnnw o 12,000 bron yn ddwbl y nifer a ddarparwyd gennym yn 2015-16. Felly, prin ein bod yn adeiladu 50 y cant o’r cartrefi newydd sydd eu hangen arnom yn ddybryd os ydym am wella ein sefyllfa dai. Ond mae hwn—yr hyn a elwir yn amcanestyniad amgen—wedi cael ei wrthod gan Lywodraeth Cymru. Felly, aethant ati i gomisiynu amcanestyniad amgen ac maent wedi ei wrthod. Rwy’n credu bod angen i ni wybod pam y maent wedi gwneud hynny. Felly, rydym mewn sefyllfa, erbyn 2031, hyd yn oed os yw Llywodraeth Cymru yn llwyddo i gyrraedd ei thargedau ei hun—ac rwyf wedi nodi bod 10 mlynedd ers iddi gyrraedd un o’i thargedau ei hun, neu bron i 10 mlynedd ers iddi gyrraedd ei tharged ei hun—bydd diffyg o oddeutu 66,000 o gartrefi yng Nghymru. Credaf fod hyn yn frawychus. Byddai cenedlaethau blaenorol yn rhyfeddu’n llwyr at yr hunanfodlonrwydd a’r methiant hwn. Ar ôl y rhyfel byd cyntaf, ar ôl yr ail ryfel byd, a diwygio mawr y Llywodraeth Lafur, roedd iechyd a thai yn cael eu gweld fel yr amcanion cymdeithasol canolog. Rwy’n credu ei bod bellach yn bryd i ni ddatgan bod yn rhaid i’r amcanestyniad amgen fod yn sail ar gyfer cyfrifo’r angen am dai.
Wrth gwrs, mae angen mwy o dir er mwyn cael mwy o dai. Rwy’n credu ei bod yn bwysig inni nodi a sicrhau bod tir ar gael i’w ddatblygu. Mae Llywodraeth y DU wedi addo cyflwyno cofrestri tir llwyd fel rhan o’u strategaeth dai eu hunain. Bydd yn rhaid i awdurdodau lleol yn Lloegr gynhyrchu a chynnal cofrestri safleoedd tir llwyd a fydd ar gael i’r cyhoedd, a bydd y rhain ar gael i adeiladwyr tai sy’n ceisio nodi safleoedd addas ar gyfer cartrefi newydd. Mae Llywodraeth y DU wedi cefnogi’r polisi hwn drwy addo cyllid sylweddol ar gyfer datblygu tir llwyd, oherwydd, yn amlwg, mae’n rhaid clirio’r safleoedd yn drylwyr yn aml iawn. Mewn cymhariaeth, mae safbwynt Llywodraeth Cymru ar yr agwedd hon ar bolisi tai wedi bod yn wan iawn. Nid yw ei chanllawiau ond yn dweud y dylid ffafrio defnyddio safleoedd tir llwyd, lle bynnag y bo’n bosibl. Wel, rwy’n cytuno â hynny, ond nid oes unrhyw anogaeth i nodi safleoedd addas neu ddarparu’r adnoddau ar gyfer clirio’r tir. Fel y cadarnhaodd Edwina Hart yn y Pedwerydd Cynulliad, ni ryddhaodd Llywodraeth Cymru unrhyw arian i gynghorau i’r diben hwn. Mae’n rhyfeddol. Fel y mae’r Gymdeithas Landlordiaid Preswyl wedi’i ddatgan, mae gwerthu tir diffaith yn arwain at nifer o effeithiau cadarnhaol o ran cynyddu’r potensial ar gyfer perchentyaeth gymdeithasol a phreifat, gan gynyddu’r refeniw i awdurdodau lleol drwy’r dreth gyngor, ac arwain at lawer mwy o gyfleoedd ar gyfer cefnogi busnesau bach lleol.
Ar y pwynt hwnnw, rwy’n awyddus i atgoffa pobl o ba mor allweddol yn economaidd yw adeiladu tai. Rydym wedi gweld dirywiad y sector busnesau bach a chanolig yn y maes hwn, ac mae honno wedi bod yn broblem go iawn. Os edrychwch ar y degawdau blaenorol pan oedd llawer o dai’n cael eu hadeiladu—y 1930au a’r 1950au yn arbennig, a’r 1970au yn ogystal—roedd y sector busnesau bach a chanolig yn wirioneddol allweddol i’r llwyddiant hwnnw. Rydym wedi colli hynny yng Nghymru i bob pwrpas, ac mae’n rhaid dweud bod hynny wedi digwydd mewn rhannau eraill o’r DU—nid problem Gymreig yn unig ydyw—ond mae angen dod â’r rhan honno o’r sector yn ôl i mewn. Mae’n lluosydd ardderchog a byddai’n cynyddu menter a gynhyrchir yng Nghymru. Er mwyn gwneud hynny, mae angen i ni gynyddu nifer y darpar weithwyr a hyfforddir gyda’r sgiliau galwedigaethol priodol ym maes adeiladu, ac unwaith eto, geilw hyn am bartneriaeth allweddol gydag addysg bellach a chynnig galwedigaethol gwell yn gyffredinol i bobl ifanc 14 neu 18 oed yn arbennig sydd efallai’n edrych am waith yn y maes hwn yn y dyfodol. Mae’n bwysig tu hwnt ein bod yn gwneud hynny cyn gynted ag y bo modd.
Un o’r pethau ychwanegol rwy’n awyddus i’w cyflwyno yn y ddadl hon yw bod angen i ni feddwl yn fwy creadigol hefyd. O ran dylunio’r amgylchedd trefol, rwy’n credu ein bod angen tipyn o chwyldro i’w gwneud yn llefydd hawdd eu defnyddio a gweld cerddwyr a beicwyr yn cael eu diogelu’n llawer gwell, a hefyd y cyfleoedd hamdden ar gyfer pobl mewn mannau trefol. Ond rwy’n credu ein bod angen tai dwysedd uwch fel opsiwn, oherwydd mae darparu unedau teuluol yn mynd i fod yn her wirioneddol os mai’r hen fodel o ragor o faestrefi â thai pâr a gerddi yw’r ffordd ymlaen yn mynd i fod. Ar y cyfandir, nid yw tai dwysedd uwch yn golygu adeiladau uchel. Mae llawer o enghreifftiau da bellach o gartrefi dwysedd uchel deniadol i deuluoedd. Er enghraifft, yn Amsterdam, mae datblygiad Borneo Sporenburg yn ardal y dociau, sy’n edrych ar dai patio tri llawr, a gynlluniwyd yn benodol i fod yn lleoedd deniadol i deuluoedd ifanc a darparu gofod cyffredinol yn yr awyr agored ar gyfer y deiliaid hefyd, gyda llawer o gyfleusterau’n cael eu rhannu. Rwy’n credu y byddai hynny’n effeithiol iawn. Rydym angen cyfleusterau chwarae a chyfleusterau hamdden da iawn, ac rwyf wedi cyfeirio’r Gweinidog at waith pwyllgor cynllunio Cynulliad Llundain yn y maes hwn, a cheir llawer o enghreifftiau eraill o dai dwysedd uchel sy’n ystyriol o deuluoedd a allai fod yn ddeniadol tu hwnt fel rhan o’r ateb.
A gaf fi ddweud i gloi, Cadeirydd, fod angen uchelgais newydd arnom? Mae tai yn angen sylfaenol, ac mae’n hanfodol i’n hiechyd, a hawliau datblygiad plant yn arbennig, mewn tai teuluol priodol. Drwy gynyddu sgiliau galwedigaethol yn y sector adeiladu yn gyflym, gallwn greu’r amodau ar gyfer ehangu sylweddol ym maes adeiladu tai. Dylem fod yn anelu at gyfradd adeiladu tai o 12,000 o unedau newydd y flwyddyn fan lleiaf, ac mewn rhai blynyddoedd, pan fydd capasiti’n caniatáu, dylid codi’r targed hwnnw i 15,000 o dai i wneud iawn am y blynyddoedd a wastraffwyd. Dylai ein nod fod yn syml ac yn uchelgeisiol: cartrefi i bawb.