Part of the debate – Senedd Cymru am 4:08 pm ar 7 Mehefin 2017.
Rydym yn nhiriogaeth cael-ein-cacen-a’i-bwyta Boris Johnson yn y fan hon, yn anffodus, onid ydym? Mae’r Papur Gwyn, mewn gwirionedd, yn glir ac yn onest am hyn. Os ydych eisiau’r manteision, yna mae rhai pethau sy’n deillio o hynny, ac yn anffodus, nid yw’n cael ei adlewyrchu yn ffordd o feddwl braidd yn niwlog Plaid Lafur y DU.
Ond rwyf am siarad am syniadau Plaid Cymru a’n cynllun ôl-Brexit, ac rwy’n chwilio am gefnogaeth ar draws y Siambr i’r ffordd rydym yn mynd i amddiffyn economi Cymru o ystyried ein bod yn ôl pob tebyg yn mynd i gael arweinyddiaeth wael yn y dyfodol, pwy bynnag sy’n ennill yn nosbarth gwleidyddol San Steffan. Rydym wedi nodi nifer o syniadau yma. Rydym wedi siarad, rwy’n meddwl, yn y ddadl ddiwethaf, am berygl mewnforion rhad i’n diwydiant amaethyddol: peryglon cyfartal, wrth gwrs, i’r rhai y bydd yr Aelod yn gwybod amdanynt mewn perthynas â’n diwydiant dur—nid yn gymaint yn y cytundeb masnach yn ôl pob tebyg, ond yn y polisi masnach. Felly, sut y mae Llywodraeth y DU yn mynd i ddefnyddio ei mesurau amddiffynnol i ddiogelu yn erbyn pethau fel dur Tsieineaidd neu ddur Coreaidd rhad ac yn y blaen? A sut rydym yn mynd i warchod yn erbyn cynnydd diffynnaeth yn gyffredinol, a allai hefyd achosi niwed sylweddol i fuddiannau’r diwydiant dur yng Nghymru? Dyna pam y credwn, mewn gwirionedd, y dylid cael sedd wrth y bwrdd ar gyfer Llywodraeth Cymru ac yn wir, i’r holl ddeddfwrfeydd datganoledig, oherwydd bod buddiannau economaidd gwahanol wledydd y DU yn ansoddol wahanol oherwydd y cyfansoddiad economaidd gwahanol.
Yn ogystal â risgiau, ceir cyfleoedd—cyfleoedd newydd, cyfreithiol ac economaidd—a ddaw o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd, ac rydym yn glir ynglŷn â hynny. Er enghraifft, y gallu i osod cyfraddau TAW rhanbarthol, a allai fod o ddiddordeb i ni. Oherwydd potensial cudd ein diwydiant twristiaeth, gallem wneud yr hyn y mae llawer o wledydd yn ei wneud a chael cyfradd TAW is ar gyfer tai bwyta neu westai. Gallem ddilyn syniad comisiwn Holtham o gael cyfradd ostyngol o dreth gorfforaeth ranbarthol amrywiadwy ar gyfer rhannau o’r DU, fel Cymru, sydd ag incwm is y pen. Gallai hynny fod yn elfen effeithiol iawn o bolisi rhanbarthol. Nid ras i’r gwaelod yw hynny mewn gwirionedd; mae’n ffordd o godi’r rhai sydd eisoes ar y gwaelod fel y gallant wella lefel eu heconomi. Gallem ddatganoli pwerau dros gaffael mewn gwirionedd. Wrth gwrs, cawsom ein tynnu allan o’r gwaharddiad, er enghraifft, ar gael ymgyrch a hyrwyddwyd gan y Llywodraeth i brynu’n lleol—yr achos yn 1982 yn erbyn Llywodraeth Iwerddon ar Guaranteed Irish a’r Irish Goods Council. Byddwn yn awr, y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd, yn gallu defnyddio arian cyhoeddus i gefnogi caffael lleol, nid yn unig yn y sector cyhoeddus ond ymhlith defnyddwyr a hefyd yn y sector preifat, gan siarad â rhai o’n cwmnïau angori. Felly, dyma rai o’r syniadau. Rydym wedi sôn am gronfeydd strwythurol; yn sicr mae angen i ni gael peth sicrwydd y tu hwnt i 2020.
Mae maniffesto Plaid Lafur y DU, unwaith eto, yn dweud:
byddwn yn sicrhau nad oes unrhyw ranbarth na gwlad yn y DU yn cael eu heffeithio yn sgil tynnu arian yr UE yn ôl dros weddill y Senedd hon.
Wel, nid yw hynny’n ddigon da, a bod yn gwbl onest. Mae arnom angen ymrwymiad hirdymor. Mae arnom angen cynllun trefnus o welliannau ar gyfer economi Cymru, i fod yn onest gyda chi. Mae arnom angen ymrwymiad 20 mlynedd i gau’r bwlch economaidd sydd wedi ymddangos mewn gwirionedd dros lywodraethau olynol o wahanol liwiau gwleidyddol. Ac oes, mae angen system o fisâu gwaith rhanbarthol oherwydd bod gwahanol anghenion mudo a sgiliau yn economi Cymru, unwaith eto oherwydd strwythur gwahanol ein heconomi o gymharu â rhannau eraill o’r DU. Mae Corfforaeth Dinas Llundain wedi cyflwyno’r ddadl hon yng nghyd-destun ei hanghenion, ond fe ddylem ni yng Nghymru hefyd gyflwyno’r achos wrth i ni symud at ffordd wahanol o reoli’r polisi mudo yn gyffredinol, beth bynnag yw’r berthynas â’r UE a’r farchnad sengl. Mewn gwirionedd dylem gyflwyno achos dros wneud yr hyn y maent yn ei wneud yng Nghanada, sef dweud, ‘Mae gan wahanol ranbarthau anghenion gwahanol; gadewch i ni adlewyrchu hynny o safbwynt mudo yn ogystal’. Diolch.