Part of the debate – Senedd Cymru am 4:14 pm ar 7 Mehefin 2017.
Rwy’n ddiolchgar i’r Aelod am ildio. Mae’n aml yn cael ei ailadrodd yn y Siambr hon, gan yr Aelod yn arbennig, fod ein haelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd wedi cyfyngu ar ein gallu i fasnachu â gweddill y byd. A all gydnabod, drwy ein haelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd, fod gennym 53 o gytundebau masnach ag economïau eraill y tu hwnt i’r UE? Ac a all esbonio i mi beth fydd statws y 53 cytundeb masnach y diwrnod ar ôl iddo lwyddo i gael yr annibyniaeth ogoneddus i’r wladwriaeth hon?